Gyrfa Cymru yw’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd i bob oed yng Nghymru.
Ein Gweledigaeth yw ‘creu dyfodol mwy disglair i bobl Cymru’ a’n pwrpas yw:
- Cefnogi pobl ifanc ac oedolion yng Nghymru i greu dyfodol mwy disglair
- Rhoi mynediad i bobl ifanc ac oedolion at gymorth gyrfaoedd amhleidiol o ansawdd uchel
- Cael effaith gadarnhaol ar ganlyniadau addysg, economaidd a lles unigolion
Rydym wedi datblygu 4 nod strategol i’n helpu i gyflawni ein gweledigaeth:
- Darparu gwasanaeth cyfarwyddyd gyrfaoedd ac anogaeth dwyieithog, cynhwysol a diduedd i bobl Cymru
- Datblygu ein gwaith gyda chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant ac entrepreneuriaid i ddeall eu gofynion sgiliau a’u cyfleoedd i bobl ifanc ac oedolion
- Cefnogi’r gwaith o gyflawni’r Cwricwlwm i Gymru a chyfrannu at gyflawni’r pedwar diben
- Datblygu gweithlu medrus, ymgysylltiol ac ystwyth yn Gyrfa Cymru a’i alluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n perfformio’n dda ac sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid
Mae pob ysgol uwchradd yng Nghymru yn gysylltiedig â thîm cymorth sy’n cynnwys Cynghorydd Gyrfaoedd, a’i rôl yw gweithio gyda disgyblion i ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd a phriodol ar yrfaoedd, Cynghorydd Cyswllt Busnes i greu a broceru cysylltiadau a chyflogwyr a Gyrfaoedd a Phrofiadau Cysylltiedig â Gwaith yn y cwricwlwm.
Hefyd mae gennym ganolfannau a lleoliadau allgymorth ledled Cymru, llinell gymorth ffôn, gwe-sgwrs ac e-bost. Ewch i’n gwefan i gael mwy o wybodaeth ar sut i gysylltu â ni ac i gael cefnogaeth ac adnoddau pellach ar gyfer athrawon a ymarferwyr https://gyrfacymru.llyw.cymru/