- Posted by: Educators Wales
Monique Sotomi - O Addysgwyr Cymru i ddechrau TAR
Dyma Monique Sotomi (sy’n astudio TAR Dylunio a Thechnoleg ym Met Caerdydd) yn rhannu ei stori am ddod o hyd i Addysgwyr Cymru a’u hamrywiaeth o wasanaethau.
--------
Fe wnes i ddod o hyd i Addysgwyr Cymru oherwydd roeddwn i’n edrych ar wahanol opsiynau a fyddai’n gweddu i fi fel myfyriwr. Roeddwn i’n teimlo mai nhw oedd yn gweddu orau i fi oherwydd rwy’n Gymraes ac mae’n adnodd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Ar ôl cysylltu ag Addysgwyr Cymru, trefnodd Luc o’r tîm weithdy ar-lein ac fe gysylltodd fi â thiwtor TAR, a oedd yn help wrth feithrin perthnasoedd a gwneud penderfyniadau.
Roedd wedi gwneud y broses yn haws o lawer i mi – roedd beth oedd angen i fi ei wneud yn gliriach i mi. Doedd dim syniad gyda fi sut i ddefnyddio UCAS ar ôl gadael y Brifysgol, felly roedd hi’n haws o ganlyniad i gael rhywun i fy helpu i.
Fe wnaeth y gweithdy a’r galwadau ffôn dilynol fy helpu i ddeall beth roedd angen i fi ei wneud er mwyn dechrau arni, er enghraifft ailsefyll rhai TGAU.
Gan fynd yn ôl ychydig, roeddwn i am fod yn athrawes oherwydd roeddwn i am gael proffesiwn a swydd sy’n gwneud gwahaniaeth. Roeddwn i am ddefnyddio fy mhrofiadau o’r byd tu allan a helpu i lywio dyfodol Cymru.
Roeddwn i’n gwybod bod galw enfawr am athrawon. Chwiliais i am gymhellion hyfforddiant i fy helpu i lunio cynllun, oherwydd roeddwn i’n gwybod y byddai angen i fi neilltuo amser i fynd i’r brifysgol, felly fyddwn i ddim yn gallu gweithio yn ystod yr wythnos wrth astudio. Y cymhelliad a wnaeth fy ngalluogi i i fynd i’r brifysgol. Person o liw ydw i ac, yn ystod sgwrs gyda Luc, fe wnes i ddarganfod bod cymhelliant yn benodol i bobl fel fi. Mae’n bwysig nodi hefyd mai dim ond pan fyddwch chi’n gorffen y cwrs y cewch chi’r arian, felly mae’n gymhelliad ychwanegol cyson!
Hoffwn i ddiolch i dîm Addysgwyr Cymru am fy helpu i ac, heb os, byddwn i’n eu hargymell i unrhyw un sydd eisiau help ar eu taith at addysgu.