Bydd yn athro Ysgol Uwchradd yng Nghymru.


Dysga’r dyfodol heddiw.
 

Pam addysgu yn y sector uwchradd yng Nghymru?
Mae addysgu yn golygu mwy na chyflwyno gwersi. Mae’n ymwneud â helpu dysgwyr i feithrin hyder, darganfod eu cryfderau a llunio eu dyfodol.
Fel athro ysgol uwchradd, byddi di’n arbenigo mewn pwnc rwyt ti’n angerddol drosto, yn gweithio gyda dysgwyr wrth iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau, ac yn chwarae rhan allweddol wrth eu paratoi ar gyfer bywyd y tu hwnt i’r ysgol.
Dechreua dy yrfa addysgu ar gyflog o £33,731 y flwyddyn. Galli di ennill hyd at £51,942 y flwyddyn fel athro dosbarth.
Os oes gen ti angerdd dros dy bwnc, gelli di hyfforddi i addysgu mewn ysgol uwchradd yng Nghymru, gyda chymorth, cyllid a llwybrau clir tuag at y proffesiwn.
Mae galw arbennig am athrawon yn y Pynciau â Blaenoriaeth canlynol:
•    Bioleg, Cemeg a Ffiseg
•    Mathemateg
•    Dylunio a Thechnoleg
•    Technoleg Gwybodaeth
•    Ieithoedd Tramor Modern
•    Cymraeg

Mae yna lwybr i’r byd addysg sy’n gweithio i ti

Pa gymorth ariannol sydd ar gael?
Gallet ti fod yn gymwys i gael cymhellion ariannol i dy gefnogi wrth hyfforddi:
•    £5,000 i hyfforddi i addysgu uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg, AC mae’n bosibl y bydd dy brifysgol yn cynnig cymorth ychwanegol ar gyfer addysgu drwy’r Gymraeg.
•    £15,000 i hyfforddi i addysgu Pwnc â Blaenoriaeth yn y sector uwchradd
•    £5,000 i fyfyrwyr addysgu o gefndir Du, Asiaidd neu o Leiafrif Ethnig.
•    Os wyt ti’n cwblhau tair blynedd yn addysgu yn y sector uwchradd, gallet dderbyn bwrsariaeth cadw athrawon o £5,000.
Mae gwybodaeth am gyllid ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) hefyd ar gael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Os oes gyda chi radd anrhydedd ac yn gweithio mewn ysgol, neu’n sicrhau lleoliad rôl gefnogol mewn ysgol, gallwch dderbyn cymeradwyaeth i hyfforddi ar gwrs TAR â thâl, gyda chostau eich cyflog yn cael eu talu drwy grant Llywodraeth Cymru.
Mae dwy fath o ysgoloriaeth ar gael trwy’r Coleg Cymraeg ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio BA Addysg os ydych yn ymgymryd â rhan o'ch astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Yr Ysgoloriaeth Cymhelliant a’r Brif Ysgoloriaeth.

Pa gymwysterau sydd eu hangen?
•    Gradd C TGAU (neu gyfwerth) Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg 
•    Bydd hefyd angen gradd brifysgol berthnasol arnoch i wneud cais am raglen TAR (2:2 neu uwch)
Gall dy brifysgol ddewisol gynnig arweiniad ar gymwysterau perthnasol a gofynion cymhwysedd penodol ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon.


Pam dewis Cymru? 
Mae modd i ti ddod â’th angerdd i’r ystafell ddosbarth drwy’r Cwricwlwm i Gymru. 
Mae ystod eang o gymorth Dysgu Proffesiynol hefyd ar gael yn gymorth i ti drwy gydol dy yrfa.
 

 

Barod i hyfforddi i addysgu yng Nghymru?
Os wyt ti’n barod i gymryd y cam nesaf ac yn gwybod ble neu sut rwyt ti eisiau hyfforddi, gelli di gysylltu â phartneriaid Addysg Gychwynnol Athrawon yn uniongyrchol.

Angen mwy o wybodaeth? Cysyllta â ni

Albane Montgomery
Athro Ffiseg a Ffrangeg
Dw i wastad wedi caru gwyddoniaeth, ac mae cael rhannu’r angerdd hwnnw yn deimlad gwych.
Abby Cripps
Athrawes Cymraeg
Cafodd fy athro Cymraeg effaith enfawr arna i ac fe ges i fy ysbrydoli i ddod yn athro. Fe ddangoson nhw sut y gall y Gymraeg ymestyn drwy bopeth rwyt ti’n ei wneud. Dwi’n gobeithio gwneud yr un peth erbyn hyn.
Dr Paul Humberstone
Athro Cemeg
Newid gyrfa a dechrau cwrs TAR oedd y penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed. Mae fy nisgyblion yn cyfoethogi fy mywyd a dwi’n gobeithio mod i’n gwneud yr un peth iddyn nhw.
Dr Rhodri Rees
Athro Mathemateg
Y peth rwy’n caru fwyaf am addysgu yw’r cyfle sydd gyda fi i wneud gwahaniaeth go iawn i ddealltwriaeth unigolyn o bwnc.
Michael Rees
Athro Bioleg
Ro’n i’n dechnegydd gwyddoniaeth cyn penderfynu dilyn llwybr hyblyg i fyd addysg, ond ges i gymorth bob cam o’r ffordd. Byddwn i’n annog unrhyw un mewn sefyllfa tebyg i ystyried mynd amdani.
Santhi Dosanjh
Athrawes Bioleg
Fy athrawon gwyddoniaeth oedd y rheswm i fi benderfynu astudio Biocemeg yn y brifysgol. Penderfynais fy mod i eisiau dilyn ôl eu traed er mwyn gallu cael effaith gadarnhaol ar y genhedlaeth nesaf.

DYSGA'R

DYFODOL

HEDDIW.