Bydd yn athro Ysgol Gynradd yng Nghymru.


Dysga’r dyfodol heddiw.

 

Pam addysgu yn y sector cynradd yng Nghymru? 


Mae addysgu yn golygu mwy na chyflwyno gwersi. Mae’n ymwneud â helpu dysgwyr i feithrin hyder, darganfod eu cryfderau a llunio eu dyfodol.
Fel athro ysgol cynradd, byddi di’n cefnogi dysgwyr ar draws ystod eang o bynciau, yn meithrin eu hyder a’u chwilfrydedd, ac yn chwarae rhan allweddol wrth adeiladu’r sylfeini ar gyfer dysgu gydol oes.
Dechreua dy yrfa addysgu ar gyflog o £33,731 y flwyddyn. Galli di ennill hyd at £51,942 y flwyddyn fel athro dosbarth.
 

Fel athro byddi di hefyd yn cael mynediad i'r cynllun Pensiwn Athrawon (dolen Saesneg yn unig).

Dysgu am Bensiwn Athrawon yma

Mae yna lwybr i’r byd addysg sy’n gweithio i ti

Pa gymwysterau sydd eu hangen?


•    Gradd C TGAU (neu gyfwerth) Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg. 
•    Gradd C TGAU Gwyddoniaeth. 
•    Bydd angen gradd brifysgol (2:2 neu uwch) arnoch i wneud cais am raglen TAR
Gall dy brifysgol ddewisol gynnig arweiniad ar gymwysterau perthnasol a gofynion cymhwysedd penodol ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon. 

 

Pam dewis Cymru? 


Mae modd i ti ddod â’th angerdd i’r ystafell ddosbarth drwy’r Cwricwlwm i Gymru. 
Mae ystod eang o gymorth Dysgu Proffesiynol hefyd ar gael yn gymorth i ti drwy gydol dy yrfa.

 

Pa gymorth ariannol sydd ar gael? 

 

Mae gwybodaeth am gyllid ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ar gael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Dysgu mwy am gyllid yma

Wrth hyfforddi yn y sector cynradd, gallet ti fod yn gymwys i dderbyn cymhelliant ariannol o £5,000 os wyt ti’n fyfyriwr addysg o gefndir Du, Asiaidd neu o Leiafrif Ethnig.

Dysgu mwy am gymhelliant yma

Os oes gyda chi radd anrhydedd ac yn gweithio mewn ysgol, neu’n sicrhau lleoliad rôl gefnogol mewn ysgol, gallwch dderbyn cymeradwyaeth i hyfforddi ar gwrs TAR â thâl, gyda chostau eich cyflog yn cael eu talu drwy grant Llywodraeth Cymru.

Dysgu mwy am TAR cyflogedig yma

Mae dwy fath o ysgoloriaeth ar gael trwy’r Coleg Cymraeg ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio BA Addysg os ydych yn ymgymryd â rhan o'ch astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Yr Ysgoloriaeth Cymhelliant a’r Brif Ysgoloriaeth.

Dysgu mwy am ysgoloriaethau yma 

Barod i hyfforddi i addysgu yng Nghymru?
Os wyt ti’n barod i gymryd y cam nesaf ac yn gwybod ble neu sut rwyt ti eisiau hyfforddi, gelli di gysylltu â phartneriaid Addysg Gychwynnol Athrawon yn uniongyrchol.

Angen mwy o wybodaeth? Cysyllta â ni

DYSGA'R

DYFODOL

HEDDIW.