BETH YW CYNRYCHIOLYDD DYSGWYR?
Ni yw’r llais sy’n cynrychioli ein dysgwyr.
Rydym yn ymgysylltu’n weithredol â dysgwyr (weithiau trwy fforymau neu drwy ddefnyddio arolygon, ond yn aml yn anffurfiol) i gasglu eu barn a’u syniadau, a sicrhau bod y rhain yn cael eu cynrychioli yn ein prosesau cynllunio strategol a gweithredol. Rydym yn defnyddio eu hadborth i wella’r profiad dysgu a’r canlyniadau i ddysgwyr.
Rydym yn meithrin cysylltiadau effeithiol â dysgwyr a staff ledled ein sefydliad er mwyn sicrhau bod pwyslais cryf ar ddysgwyr yn cyfrannu at bob maes, gan gynnwys addysgu, dysgu, darparu gwasanaethau a chymorth.
Rydym yn angerddol ynghylch gwelliant parhaus a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i brofiad dysgwyr.
Mae’n bleser mawr i ni ddathlu cyflawniadau ein dysgwyr ac rydym yn gwybod ein bod wedi gwneud gwaith da pan welwn gynnydd o ran cyfranogiad myfyrwyr, eu cadw, eu cynnydd, eu boddhad a’u cyflawniad!
LLWYBRAU I MEWN I’R RÔL
Gall y rhain gynnwys:
- Gweithio mewn amrywiaeth o rolau o fewn diwydiant neu addysg
- Cymryd rhan mewn gweithgorau/gweithgareddau/cynghorau dysgwyr
- Swyddi gwirfoddol sy’n ymwneud â chefnogi a mentora dysgwyr
- Prentis ar hyn o bryd a/neu’n flaenorol
SGILIAU A PHRIODOLEDDAU ALLWEDDOL AR GYFER Y RÔL
- y gallu i ysgogi ac ysbrydoli dysgwyr
- sgiliau cyfathrebu cryf
- y gallu i gydweithio â phobl ar lefelau gwahanol
- sgiliau trefnu a chynllunio effeithiol
- sgiliau gwrando ac arsylwi cryf
- hyder wrth gyflwyno i grwpiau o fyfyrwyr
- gwybodaeth gadarn am yr alwedigaeth
- hyder a gallu wrth ddefnyddio TGCh
- sgiliau Cymraeg – bydd y lefelau gofynnol yn amrywio, yn dibynnu ar y swydd, ond disgwylir ymrwymiad i’r Gymraeg ym mhob rôl (hyd yn oed os ydych ond yn datblygu eich sgiliau fel dechreuwr)
- ymrwymiad i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc
- ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.