BETH YW ASESYDD PRENTISIAETH?

Rydym yn cynllunio, yn cyflwyno ac yn asesu rhaglenni a gweithdai hyfforddiant galwedigaethol, gan weithio ar draws ystod eang o feysydd galwedigaethol – o drin gwallt a harddwch i adeiladu a gwasanaethau adeiladu – gan gefnogi grwpiau o ddysgwyr (o oedrannau gwahanol) yn eu gweithleoedd. Rydym yn hwyluso dysgu gan ddefnyddio ystod eang o adnoddau i gyd-fynd ag anghenion dysgwyr unigol.

Rydym yn gweithio’n agos â dysgwyr (yn aml, un i un) trwy gydol eu cymwysterau, gan asesu eu hanghenion a chynllunio rhaglen gyflwyno sy’n bodloni eu gofynion unigol a gofynion y diwydiant y maent yn gweithio ynddo. Rydym yn dilyn dull dysgu cyfunol (gan gyflwyno darpariaeth ar-lein yn ogystal ag wyneb i wyneb) ac yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu i fonitro ac adolygu cynnydd ein dysgwyr, a darparu adborth adeiladol i’w hymestyn a’u herio.

Mae gennym sgiliau technegol a galwedigaethol cryf, a gwybodaeth a phrofiad sy’n gyfredol ac yn berthnasol i ddiwydiant, sy’n ein galluogi i sicrhau bod dysgwyr sy’n dilyn cymwysterau galwedigaethol yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer y swydd.

Rydym yn angerddol am drawsnewid bywydau ein dysgwyr, a meithrin perthnasoedd cefnogol â dysgwyr i sicrhau cynnydd, a’u cefnogi i gyflawni eu dyheadau.

Rydym yn gweithio’n agos â chyflogwyr, rheolwyr a dysgwyr i ddarparu profiad dysgu o ansawdd ac i gefnogi dysgwyr i ennill eu cymwysterau. Rydym yn monitro iechyd a diogelwch yn y gweithle i sicrhau diogelwch a lles ein dysgwyr.

LLWYBRAU I MEWN I’R RÔL

Gall y rhain gynnwys:

  • Profiad mewn diwydiant neu addysg
  • Gweithio fel asesydd heb gymhwyso/asesydd dan hyfforddiant â chymorth mentor

 

Y CYMWYSTERAU Y BYDD EU HANGEN ARNOCH

Mae angen i aseswyr prentisiaeth fod â chymhwysedd galwedigaethol yn y maes galwedigaethol y maent yn dymuno ei asesu, er enghraifft wrth feddu ar gymwysterau ffurfiol a hanes gwaith arwyddocaol. Yn ogystal, bydd angen i ymarferwyr ennill cymwysterau addysgu a/neu asesu perthnasol er mwyn cael dealltwriaeth o ddulliau asesu.

 

Chwiliwch yma am ddarparwyr cymwysterau

SGILIAU A PHRIODOLEDDAU ALLWEDDOL AR GYFER Y RÔL

 

  • y gallu i ysgogi ac ysbrydoli dysgwyr
  • sgiliau cyfathrebu cryf
  • y gallu i gydweithio â phobl ar lefelau gwahanol
  • sgiliau trefnu a chynllunio effeithiol
  • sgiliau gwrando ac arsylwi cryf
  • hyder wrth gyflwyno i grwpiau o fyfyrwyr
  • y gallu i ddefnyddio tystiolaeth ac ymchwil i wella ymarfer mewn addysgu ac asesu
  • gwybodaeth gadarn am yr alwedigaeth
  • awydd i barhau i ddysgu a datblygu

 

 

  • dealltwriaeth o ofynion iechyd a diogelwch yn y gweithle
  • y gallu i fod yn hyfforddwr/mentor i ddysgwyr
  • hyder a gallu wrth ddefnyddio TGCh, gan gynnwys technolegau digidol, i gefnogi addysgu a dysgu
  • sgiliau Cymraeg – bydd y lefelau gofynnol yn amrywio, yn dibynnu ar y swydd, ond disgwylir ymrwymiad i’r Gymraeg ym mhob rôl (hyd yn oed os ydych ond yn datblygu eich sgiliau fel dechreuwr)
  • ymrwymiad i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc
  • ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

 

Chwiliwch yma am swyddi

CYFLEOEDD AR GYFER DATBLYGIAD

Gall y rhain gynnwys:

  • Arwain tîm o aseswyr
  • Rheolwr hyfforddiant
  • Dilysydd mewnol neu allanol