BETH YW TIWTOR DYSGU SEILIEDIG AR WAITH YM MAES SGILIAU HANFODOL?

Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn cefnogi datblygiad y sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol sydd eu hangen ar gyfer addysg, gwaith a bywyd, ac maent wedi’u hanelu at bobl sy’n cael mynediad at ddysgu mewn ystod eang o amgylcheddau y tu allan i ysgolion prif ffrwd.

Rydym yn gweithio ag ystod eang o ddysgwyr, ac yn aml â dysgwyr sy’n oedolion. Rydym yn gweithio’n agos â’n dysgwyr i asesu eu hanghenion a chynllunio rhaglenni cyflwyno sy’n bodloni eu gofynion unigol.

Gall y rôl fod yn heriol, weithiau. Ond rydym yn meithrin perthnasoedd cryf â dysgwyr er mwyn ymgysylltu â nhw, eu hysgogi a’u cefnogi i ddatblygu eu sgiliau, eu hyder a’u dealltwriaeth, ac i ddefnyddio’r medrau hyn yn annibynnol yn eu bywyd bob dydd ac yn y gwaith.

Rydym yn cefnogi datblygiad y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer addysg, y gweithle, a bywyd, ac rydym yn gweithio â grŵp amrywiol o ddysgwyr mewn ystod eang o amgylcheddau.

Rydym yn cydweithio ar draws adrannau mewn ffordd fyfyriol a rhagweithiol er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i ddysgwyr ac unigolion

* Yn ogystal, gall Tiwtoriaid Sgiliau Hanfodol weithio yn y sector addysg bellach (AB) (lle cânt eu hadnabod yn aml fel Darlithwyr Sgiliau Hanfodol). Dysgwch sut beth yw bod yn Ddarlithydd Sgiliau Hanfodol mewn coleg AB (dolen i silwét arall).

LLWYBRAU I MEWN I’R RÔL

Gall y rhain gynnwys:

  • Gweithio mewn rolau eraill yn y sector dysgu seiliedig ar waith, y sector AB, neu’r sector addysg oedolion
  • Gweithio fel athro neu gynorthwyydd addysgu lefel uwch mewn ysgol
  • Ennill Cymhwyster Ymarferydd Sgiliau Hanfodol Lefel 3 yn ddiweddar

Y CYMWYSTERAU Y BYDD EU HANGEN ARNOCH

Bydd Tiwtor Sgiliau Hanfodol angen Cymhwyster Ymarferydd Sgiliau Hanfodol Lefel 3 / Tystysgrif Lefel 3/5 mewn Addysgu Oedolion / cymhwyster Lefel 5 mewn disgyblaeth berthnasol / cymhwyster Hyfforddiant, Asesu a Sicrhau Ansawdd, neu gymhwyster asesydd cyfatebol (neu’n gweithio tuag at hynny).

 

Chwiliwch yma am ddarparwyr cymwysterau

SGILIAU A PHRIODOLEDDAU ALLWEDDOL AR GYFER Y RÔL

 

  • rheoli dosbarth yn effeithiol
  • profiad o addysgu oedolion
  • y gallu i ysgogi ac ysbrydoli dysgwyr
  • sgiliau cyfathrebu cryf
  • y gallu i gydweithio â phobl ar lefelau gwahanol
  • sgiliau trefnu a chynllunio effeithiol
  • sgiliau gwrando ac arsylwi cryf
  • hyder wrth gyflwyno i grwpiau o fyfyrwyr

 

 

  • gwybodaeth gadarn am yr alwedigaeth
  • hyder a gallu wrth ddefnyddio TGCh, gan gynnwys technolegau digidol, i gefnogi addysgu a dysgu
  • sgiliau Cymraeg – bydd y lefelau gofynnol yn amrywio, yn dibynnu ar y swydd, ond disgwylir ymrwymiad i’r Gymraeg ym mhob rôl (hyd yn oed os ydych ond yn datblygu eich sgiliau fel dechreuwr)
  • ymrwymiad i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc
  • ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

 

Chwiliwch yma am swyddi

CYFLEOEDD AR GYFER DATBLYGIAD

Gall y rhain gynnwys:

  • Cynghorydd Ansawdd Mewnol 
  • Rheolwr Sgiliau
  • Rheolwr Ardal/DSW