BETH YW PRIF WEITHREDWR DYSGU SEILIEDIG AR WAITH (DSW)?

Rydym yn gyfrifol am arweinyddiaeth strategol gyffredinol ein sefydliad, gan sicrhau ei fod yn cyflawni ei nodau a’i amcanion strategol, fel y’u pennir gan ein Bwrdd.

Rydym yn llunio ac yn gweithredu cynlluniau strategol blaengar ar gyfer datblygu a gwella, ac mae gennym gyfrifoldeb cyffredinol am ddatblygiad a thwf parhaus ein darpariaeth. Rydym yn sicrhau bod ein strategaethau tymor byr a hirdymor yn cael eu cyfleu i gynulleidfaoedd mewnol ac allanol.

Rydym yn darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad ysbrydoledig a dilys gan sicrhau y cyflawnir ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a’n pwrpas, er mwyn arwain ein sefydliad at ddyfodol cynaliadwy a chryf.

Mae ein rôl yn ymwneud â lefel uchel o gyfrifoldeb, a gwnawn benderfyniadau hollbwysig sy’n effeithio ar ddyfodol ein sefydliad a’n gweithwyr.

Rydym yn sefydlu diwylliant o uchelgais a chyflawniad ar gyfer pob dysgwr a’r holl staff. Rydym yn dangos ymrwymiad i dwf a datblygiad personol staff a dysgwyr ar bob lefel

Rydym yn sefydlu llinellau cyfrifoldeb a goruchwyliaeth clir ar gyfer pob maes o fewn ein sefydliad. Rydym yn gweithredu fel rheolwyr llinell, gan arfarnu a datblygu uwch arweinwyr a’u cyfrifoldebau portffolio yn effeithiol.

Rydym yn arwain ac yn hyrwyddo diwylliant o weithio mewn partneriaeth i godi dyheadau a gwireddu uchelgeisiau tuag at gyflawni llwyddiant eithriadol.

Rydym yn chwarae rhan effeithiol yng ngwaith ein Corff Llywodraethu, fel aelod o’r Bwrdd ac fel cynghorydd allweddol i’r Llywodraethwyr ar strategaeth a pholisi. Rydym yn sicrhau bod y Corff Llywodraethu a’i bwyllgorau yn cael eu hysbysu’n llawn am agweddau allweddol ar berfformiad, a datblygiadau a phrosiectau mawr, ac yn gofalu bod arferion y coleg yn bodloni safonau llywodraethu da.

Rydym yn sicrhau bod yr holl gyllidebau ac adnoddau’n cael eu rheoli’n effeithiol ac yn briodol a bod system rheoli risg effeithiol ar waith, sy’n golygu bod unrhyw risgiau’n cael eu gwerthuso, eu hasesu a’u rheoli mewn ffordd sy’n sicrhau sefydlogrwydd ac enw da ein sefydliad yn y dyfodol.

Rydym yn gweithredu fel llysgennad ar ran y sefydliad, i helpu i gynnal ei ddelwedd gadarnhaol o fewn ein cymuned ac yn ehangach ar draws y sector addysg. Rydym yn adeiladu ac yn cynnal cysylltiadau effeithiol a chyd-gefnogol â rhanddeiliaid allweddol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol er mwyn meithrin a chryfhau’r perthnasoedd a’r rhwydweithiau hyn.

Rydym yn cyfathrebu’n effeithiol er mwyn cynnal a datblygu perthnasoedd gwaith llwyddiannus ag is-gontractwyr. Rydym yn goruchwylio gweithrediad cytundebau lefel gwasanaeth cynhwysfawr ac rydym yn sicrhau bod y rhain yn cael eu hadolygu’n rheolaidd. Rydym yn monitro perfformiad is-gontractwyr yn fanwl er mwyn gwella profiad dysgwyr.

Rydym yn creu ac yn meithrin perthynas waith agos â diwydiant a’r gymuned ehangach, er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy lle caiff anghenion hyfforddiant eu harwain gan alw ac nid y cyflenwad. Rydym yn edrych am ffyrdd o ehangu cyfleoedd ar gyfer addysg o fewn ein cymuned, gan ysgogi llwyddiant masnachol ac addysgol ein sefydliad.

LLWYBRAU I MEWN I’R RÔL

Gall y rhain gynnwys:

  • Cyfarwyddwr Gweithrediadau
  • Rheolwr Gyfarwyddwr
  • Prif Swyddog Cyllid
  • Is-bennaeth

Y CYMWYSTERAU Y BYDD EU HANGEN ARNOCH

Disgwylir i Brif Weithredwr feddu ar gymhwyster lefel gradd (neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol), yn ogystal â meddu ar gymhwyster rheoli neu gymhwyster proffesiynol perthnasol.

 

Chwiliwch yma am ddarparwyr cymwysterau

SGILIAU A PHRIODOLEDDAU ALLWEDDOL AR GYFER Y RÔL

 

  • sgiliau cyfathrebu effeithiol dros ben
  • sgiliau rheoli pobl
  • sgiliau meddwl yn feirniadol
  • y gallu i annog, ysgogi ac ysbrydoli pobl eraill
  • sgiliau rhagorol o ran dadansoddi, datrys problemau, cyd-drafod a gwneud penderfyniadau
  • arweinydd a rheolwr strategol effeithiol
  • trefnydd a chynlluniwr effeithiol
  • y gallu i weithio’n effeithiol dan bwysau
  • sgiliau rhyngbersonol a rhwydweithio rhagorol
  • ymrwymiad cadarn i welliant a rhagoriaeth

 

 

 

  • craffter busnes cryf a’r gallu i rwydweithio o fewn cylchoedd addysg, busnes a llunio polisi
  • profiad o reolaeth ariannol ar lefel uchel
  • hyder a gallu wrth ddefnyddio TGCh
  • sgiliau Cymraeg – bydd y lefelau gofynnol yn amrywio, yn dibynnu ar y swydd, ond disgwylir ymrwymiad i’r Gymraeg ym mhob rôl (hyd yn oed os ydych ond yn datblygu eich sgiliau fel dechreuwr)
  • ymrwymiad i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc
  • ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

 

 

 

Chwiliwch yma am swyddi

CYFLEOEDD AR GYFER DATBLYGIAD

Gall y rhain gynnwys:

  • Prif Weithredwr mewn sefydliad mwy o faint – gan gynnwys trosglwyddo i ddiwydiant/masnach
  • Gwaith ymgynghori ym maes busnes/rheoli
  • Is-bennaeth/Pennaeth o fewn AB/AU
  • Rôl ymgynghorol â Llywodraeth Cymru