BETH YW SWYDDOG CYMORTH Y GYMRAEG?
Rydym yn rhannu ein hangerdd dros y Gymraeg ac yn eirioli’n hyderus dros ac ar ran yr iaith er mwyn hybu ac annog ei defnydd o fewn ein sefydliadau.
Rydym yn cefnogi dysgwyr ym mhob agwedd ar ddatblygiad y Gymraeg wrth hwyluso rhaglenni anffurfiol o weithgareddau, a’u cynorthwyo i gwblhau asesiadau dwyieithog/cyfrwng Cymraeg yn llwyddiannus. Rydym yn creu ffyrdd arloesol a chreadigol i ddysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg a chwilio am gyfleoedd i ddathlu diwylliant Cymru a’i le yn y byd.
Rydym yn annog ac yn cefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, gan ddarparu cyfleoedd siarad ychwanegol i staff sy’n siarad Cymraeg a staff sy’n dysgu Cymraeg.
Rydym yn hyrwyddo manteision y Gymraeg, fel sgil cyflogadwyedd, i ddysgwyr, staff, cyflogwyr a rhanddeiliaid ehangach.
LLWYBRAU I MEWN I’R RÔL
Gall y rhain gynnwys:
- Cyfrifoldeb dros hyrwyddo’r Gymraeg fel rhan o’ch rôl bresennol
- Gweithio fel athro mewn lleoliad prif ffrwd
SGILIAU A PHRIODOLEDDAU ALLWEDDOL AR GYFER Y RÔL
- sgiliau Cymraeg ysgrifenedig a llafar rhagorol
- y gallu i ysgogi ac ysbrydoli dysgwyr
- sgiliau darbwyllo a chyd-drafod
- sgiliau cyfathrebu cryf
- y gallu i gydweithio â phobl ar lefelau gwahanol
- sgiliau trefnu a chynllunio effeithiol
- sgiliau gwrando ac arsylwi cryf
- hyder a gallu wrth ddefnyddio TGCh
- ymrwymiad i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc
- ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant