BETH YW RHEOLWR DATBLYGU’R GYMRAEG?

Rydym yn chwarae rhan allweddol wrth arwain a chefnogi darpariaeth gwasanaethau Cymraeg o ansawdd ar draws ein sefydliad a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith rhanddeiliaid mewnol ac allanol trwy amrywiaeth o fentrau.

Rydym yn rhannu ein hangerdd dros y Gymraeg ac yn hybu ac annog defnydd dyddiol o’r iaith. Awn ati i chwilio am gyfleoedd i ddathlu diwylliant Cymru a’i le yn y byd ac eirioli’n hyderus dros ac ar ran y Gymraeg.

Rydym yn sicrhau bod ein gweithle yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, ac yn cefnogi staff i ddeall y gofynion a’u bodloni. Rydym yn sicrhau bod gan y sefydliad gynlluniau gweithredu cyfredol ar gyfer y Gymraeg er mwyn gweithio tuag at dargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Rydym yn sicrhau bod gwasanaeth cynhwysfawr yn cael ei ddarparu i unrhyw un sy’n dewis cyfathrebu â ni neu ddefnyddio ein gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn edrych am gyfleoedd i’n polisïau a’n harferion gael effaith gadarnhaol ar y defnydd o’r iaith.

Rydym yn gweithio’n agos â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddatblygu rhagor o gyfleoedd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg i ddysgwyr, myfyrwyr a phrentisiaid yng Nghymru.

LLWYBRAU I MEWN I’R RÔL

Gall y rhain gynnwys:

  • Cyfrifoldeb dros hyrwyddo’r Gymraeg fel rhan o’ch rôl bresennol
  • Gweithio fel swyddog cymorth y Gymraeg (dolen i silwét arall)
  • Gweithio fel athro mewn lleoliad prif ffrwd

Y CYMWYSTERAU Y BYDD EU HANGEN ARNOCH

Er nad yw’n hanfodol ar gyfer y rôl, mae cymhwyster Lefel 3 (neu uwch) yn y Gymraeg yn ddymunol. Bydd llawer o reolwyr hefyd wedi ennill graddau, graddau sylfaen neu gymwysterau proffesiynol.

 

 

Chwiliwch yma am ddarparwyr cymwysterau

SGILIAU A PHRIODOLEDDAU ALLWEDDOL AR GYFER Y RÔL

  • sgiliau Cymraeg ysgrifenedig a llafar rhagorol
  • sgiliau cyfathrebu cryf
  • y gallu i gydweithio â phobl ar lefelau gwahanol
  • sgiliau trefnu a chynllunio effeithiol
  • sgiliau gwrando ac arsylwi cryf

 

 

  • y gallu i ddadansoddi data yn feirniadol
  • hyder a gallu wrth ddefnyddio TGCh
  • ymrwymiad i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc
  • ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

 

 

cliciwch yma am swyddi

CYFLEOEDD AR GYFER DATBLYGIAD

Gall y rhain gynnwys:

  • Rolau yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • Rolau hyrwyddo’r Gymraeg o fewn sefydliadau eraill