Gwnewch wahaniaeth. Addysgwch y pwnc rydych chi’n ei garu yn y Gymraeg.
Os ydych yn siaradwr Cymraeg gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC), mae galw mawr am eich sgiliau mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru.
Gallwch newid i addysgu uwchradd gyda’r Cynllun Pontio os ydych:
- Yn addysgu cynradd eisoes, yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
- Yn addysgu y tu allan i Gymru ar hyn o bryd, ond yn dymuno dychwelyd i addysgu yng Nghymru yn y Gymraeg.
- Heb addysgu ers pum mlynedd neu fwy ond yn dymuno dychwelyd i'r proffesiwn (gyda SAC cynradd neu uwchradd).
Cewch gyflog, hyfforddiant, a llawer o gefnogaeth drwy’r Cynllun Pontio i wneud y newid hwn!
Gwnewch Gais Nawr
Lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais ar y dudalen ganlynol a'i chyflwyno drwy e-bost erbyn dydd Sul, 2ail Mawrth 2025. Am ragor o wybodaeth, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin isod, neu ein hysbyseb swydd.
Os oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnoch chi, cysylltwch â'r tîm drwy AthrawonCC.WMTeachers@gov.wales
Os oes gennych chi Statws Athro Cymwysedig (SAC) fel athro/athrawes ysgol gynradd yn barod, a'ch bod yn gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, yna rydym eisiau i chi wneud cais!
Gallwch hefyd wneud cais os:
- Rydych chi eisoes yn addysgu yn y sector cynradd, ond nid trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd
- Mae gennych SAC (cynradd neu uwchradd) ac yn gweithio y tu allan i Gymru, ond yn dymuno addysgu yng Nghymru
- Mae gennych SAC (cynradd neu uwchradd) ac nid ydych wedi bod yn addysgu ers pum mlynedd neu fwy, ond yn dymuno dychwelyd i'r proffesiwn
Gofynnir i chi enwi tair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ble yr hoffech addysgu. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn hwyluso’r lleoliad hwn.
Byddwch!
Bydd pob unigolyn sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn derbyn cyflog ar y gyfradd briodol ar gyfer y flwyddyn ysgol. Caiff yr unigolion eu contractio a’u talu gan yr ysgolion/awdurdodau lleol.
Mae’r Cynllun Pontio yn bartneriaeth rhwng yr ysgolion sy’n cymryd rhan a’r darparwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) dros gyfnod o flwyddyn ysgol.
Bydd disgwyl i chi addysgu gwersi, gydag amserlen addysgu yn cynyddu yn ystod y flwyddyn ysgol.
Bydd pedwar diwrnod o gefnogaeth yn cael eu darparu gan y darparwyr AGA ar y themâu canlynol:
• Rheolaeth dosbarth
• Rheolaeth ymddygiad
• Lles yr athro a datblygu dycnwch
• Strategaethau rheoli amser / llwyth gwaith
• Trosolwg technegau cynllunio gwersi
• Trosolwg o’r Cwricwlwm newydd
• Mewnbwn ieithyddol: yn ôl angen yr unigolyn
Bydd yr ysgolion sy’n cymryd rhan yn darparu ystod o brofiadau, cefnogaeth a datblygiad proffesiynol ar y canlynol:
• Mewnbwn pynciol
• Marcio ac adborth
• Cynllunio gwersi
Bydd gan bob athro fynediad at athro cefnogaeth proffesiynol o fewn yr ysgol, a fydd yn gyfrifol am gynnal deialog proffesiynol am ddatblygiad a darparu cefnogaeth mewn gwers unwaith bob pythefnos.
Croesewir ceisiadau i addysgu unrhyw bwnc, ond mae gwahanol anghenion mewn gwahanol ardaloedd o Gymru. Mae galw mawr am y pynciau canlynol:
- bioleg
- cemeg
- dylunio a thechnoleg
- gwyddoniaeth cyfrifiadurol/technoleg gwybodaeth
- mathemateg
- ieithoedd tramor modern
- ffiseg
- Cymraeg
- Saesneg