MANYLION
  • Lleoliad: Powys
  • Dechrau: 06 Oct, 2023 - 9:15
  • Diwedd: 06 Oct, 2023 - 16:00
Mwy o wybodaeth

Cynhadledd Athrawon Ffiseg Cymru Aberhonddu 2023

Dydd Gwener bydd y Gynhadledd yng Ngholeg Crist, Aberhonddu (09.30-16.00), lle byddwn yn ymuno gyda: Gwenllian Williams, Prifysgol Leeds; Helen Francis, CBAC a Martin McHugh, CSA Catapult.

Bydd gweithdai technegydd yn rhedeg ochr yn ochr ar ddydd Gwener, a bydd Paul Cook, Aelod Anrhydeddus o’r IOP, Iain Davison, Data Harvest, a Philip Harris yn arwain cyfres o weithdai yn canolbwyntio ar Ffiseg ymarferol.

Gall athrawon mewn ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth yng Nghymru ac sy’n mynychu ddydd Gwener 6 Hydref wneud cais am Grant ‘Enthuse’ trwy STEM Learning i dalu costau cyflenwi a theithio. Os dymunwch wneud cais am Grant ‘Enthuse’ defnyddiwch y ddolen isod ar gyfer y Cais ‘Enthuse’.