- Lleoliad: Canolbarth Cymru
- Dechrau: 28 Medi, 2023 - 10:00 am
- Diwedd: 28 Medi, 2023 - 2:30 pm
- Telerau:
Gyrfa Cymru Dewiswch Eich Dyfodol Ceredigion a Phowys
Gwahoddir disgyblion blynyddoedd 9 i 13 ag anghenion dysgu ychwanegol o ysgolion arbennig a phrif lif ar draws Ceredigion a Phowys i gyfarfod â ystod o gyflogwyr a chymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau.
Dyddiad ac amser
Dydd Iau 28 Medi 2023, 10:00am i 2:30pm
Lleoliad
Canolfan Hamdden Rhaeadr, Rhaeadr, LD6 5BU
Beth all disgyblion ei ddisgwyl
Bydd tua 20 o gyflogwyr yn mynychu. Byddant yn darparu gwybodaeth am yrfaoedd a swyddi yn eu sector.
Bydd yn gyfle i bobl ifanc ddarganfod mwy am:
- Gyrfaoedd
- Cyrsiau
- Prentisiaethau
- Llwybrau hyfforddi
Dyma gyfle gwych i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol gael gwybodaeth oddi wrth bobl mewn diwydiant. Bydd yn gyfle iddynt ddarganfod beth mae cyflogwyr yn chwilio amdano wrth recriwtio’u gweithlu, a chael dealltwriaeth o’r byd gwaith. Byddant hefyd yn cael y cyfle i roi cynnig ar ystod o weithgareddau hwyliog.
Bydd cynghorwyr gyrfayn bresennol ar y diwrnod hefyd. Gallant ddarparu gwybodaeth am gael mynediad i wahanol swyddi, cyrsiau a chymwysterau.