- Posted by: Educators Wales
Tiwtor Oedolion
Pryd daethoch chi'n diwtor?
Dechreuais ryw 20 mlynedd yn ôl. Nid oedd yn rhywbeth yr oeddwn yn bwriadu ei wneud o'r dechrau. Roedd yn ddamwain hapus i mi syrthio i mewn i rywbeth rwy'n ei fwynhau a rhywbeth rwy'n dda iawn yn ei wneud. Roedd yn cyd-fynd yn dda â fy ffordd o fyw ar y pryd hefyd, felly yn naturiol dyna oedd y llwybr delfrydol i mi ei ddilyn, ac rwy’n falch iawn ei fod wedi gweithio allan felly!
Beth sy'n eich ysbrydoli bob dydd?
Rwyf wrth fy modd yn dysgu pobl; dyna sy'n fy ysbrydoli. Rwyf wrth fy modd yn gweld wynebau pobl pan fyddant yn dysgu rhywbeth newydd ac yn cysylltu darnau o wybodaeth â'i gilydd, a'r eiliad y daw popeth yn glir iddynt. Trysor mwyaf Cymru yw’r bobl a’u doniau, dyna sy’n bwysig a dyna sy’n fy ysbrydoli.
Beth yw'r peth gorau am addysgu?
Fy hoff beth am addysgu yw’r cyfle i rannu gwybodaeth. Dydw i ddim eisiau bod yn hunanol a chadw'r holl wybodaeth i mi fy hun. Rwy'n awyddus i rannu'r hyn rwy'n ei wybod. Os ydw i’n gwybod rhywbeth diddorol am yr iaith, hanes yr iaith, hanes lleoedd, rydw i eisiau trosglwyddo’r wybodaeth honno i rywun yn y gobaith y byddan nhw wedyn yn ei throsglwyddo i rywun arall.
Beth yw eich cyflawniad mwyaf?
Heb os, fy nghyflawniad mwyaf yw’r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydw i wedi symud ymlaen o fod yn ddysgwr Cymraeg i fod yn rhugl, a’r gallu hwnnw i addysgu yn Gymraeg yw’r cyflawniad pwysicaf i mi. Hefyd, dwi’n falch iawn bod dysgwyr eraill yn teimlo’n ddigon saff yn fy nosbarthiadau i allu ymarfer eu Cymraeg, ac mae hynny’n dipyn o gamp hefyd. Mae’n bwysig i mi bod fy myfyrwyr yn gwybod ei bod hi’n iawn i ddechrau brawddeg yn Gymraeg, newid i’r Saesneg, ac efallai newid yn ôl i’r Gymraeg. Mae'n ofod diogel heb unrhyw farn. Rwy’n eu parchu ac yn gwerthfawrogi’r hyn sydd ganddynt i’w gynnig, mater i mi yw sicrhau eu bod yn teimlo’n gyfforddus ac yn hyderus.
Pa mor bwysig yw eich rôl?
Rwy'n meddwl bod fy rôl fel Tiwtor Oedolion yn bwysig iawn. Mae’n bwysig atgoffa pawb o bob oed, pob cefndir a phob gallu sy’n bosibl i fynd yn ôl i addysg ac mae dosbarthiadau achlysurol mewn pwnc sydd o ddiddordeb i chi yn brofiad gwych. Does dim rhaid i addysg ddod i ben am byth pan fyddwch chi'n gadael yr ysgol!
Beth fyddai eich cyngor i rywun sy'n dymuno bod yn Diwtor Oedolion?
Rhowch gynnig arni! Weithiau, mae pobl yn dweud yn syth, “O na, alla i ddim...” Wel, mae’n rhaid i chi drio! Gall pawb gyfathrebu ac mae gan bawb wybodaeth y maent am ei rhannu. Mae dysgu dod yn diwtor yn syml yn dysgu sut i addysgu gwybodaeth yn effeithlon a defnyddio'ch doniau naturiol i wneud hynny. Rwy’n meddwl bod gan bawb rywbeth unigryw i’w gynnig fel tiwtor. Mae angen amrywiaeth o diwtoriaid yn addysgu mewn gwahanol ffyrdd. Mae rhai tiwtoriaid yn dawel ac yn feddylgar tra bod eraill yn swnllyd ac yn llawn hiwmor. Mae gan lawer o bobl y gallu i addysgu. Ewch amdani!