MANYLION
- Lleoliad: Canolfan Rheidol, Aberystwyth,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 30,742 - 47,340 *
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 12 Medi, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: 30,742 - 47,340 *
Ynglŷn â'r rôlMae Carlam Cymru yn parhau i gynnal sesiynau adolygu ar gyfer myfyrwyr TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch. Caiff y rhain eu recordio, er mwyn i fyfyrwyr ailymweld â hwy ar unrhyw adeg.
Nod y sesiynau yw cyfoethogi gwybodaeth y myfyrwyr mewn gwahanol bynciau ac i gynnig cymorth pellach i'r gwaith anhygoel mae'r athrawon yn eu cyflawni yn eu hysgolion. Mae'r sesiynau adolygu AM DDIM ac ar gael i bob myfyriwr ledled Cymru a thu hwnt.
Mae e-sgol yn edrych i benodi ymarferwyr profiadol o bob rhan o Gymru i ddarparu sesiynau ar-lein a fydd yn cael eu rhannu ag ysgolion ledled Cymru. Bydd y sesiynau yn cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu ymhellach eu dealltwriaeth o wahanol destunau/unedau o fewn pynciau amrywiol.
Yn eich cais, cofiwch nodi pob pwnc rydych chi'n hapus i gynnig, ym mha iaith, ac i ba lefel.
Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â Nia Jones ar: nia.jones2@e-sgol.cymru
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy