MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Prifathro

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Rhostyllen

Stryd yr Ysgol, Rhostyllen, Wrecsam, LL14 4QN

Rhif Ffôn: 01978 352357

Pennaeth: Mrs Mair Darlington

Cadeirydd y Llywodraethwyr: Mrs Heather Owen

Cyfanswm ar y Gofrestr:220

PENNAETH

I ddechrau Medi'r 1af, 2024

Arweinyddiaeth L12 - L18

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn gwahodd penaethiaid ac ymarferwyr profiadol sy'n meddu ar gymhwyster CPCP i wneud cais ar gyfer swydd pennaeth.

Mae Ysgol Rhostyllen yn ysgol ofalgar a chynhwysol lle mae ein disgyblion wrth galon popeth a wnawn. Mae gennym ddisgyblion uchel eu cymhelliant, staff ymroddedig, rhieni cefnogol a chorff llywodraethu ymroddedig a gweithgar.

Mae Ysgol Rhostyllen yn ysgol gynradd mynediad un dosbarth gyda disgyblion o Rostyllen, Y Bers a'r cyffiniau.

Mae'r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi pennaeth brwdfrydig a gweledigaethol gyda sgiliau arwain rhagorol ac ymrwymiad ac awch i gynnal safonau a lefelau cyrhaeddiad uchel.

Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus:

• dangos arweinyddiaeth gref a deinamig

• adeiladu ar gryfderau ein hysgol

• modelu ac ysbrydoli arfer dosbarth rhagorol ar draws yr ysgol a chynnal

angerdd cryf dros addysgu a dysgu

• ysgogi ac ysbrydoli'r holl ddisgyblion a staff

• meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol gyda'r gallu i feithrin

perthnasoedd cadarnhaol gyda'r holl randdeiliaid

• datblygu potensial llawn pob plentyn ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol

• dangos ymrwymiad cryf i hyrwyddo lles a llais y disgybl

• creu amgylchedd sy'n sicrhau dysgu effeithiol i'r holl ddisgyblion ac yn

hyrwyddo safonau cyflawniad uchel.

Croesawir ymweliadau â'r ysgol cyn ymgeisio. I gael mwy o wybodaeth ac i wneud apwyntiad ar gyfer ymweliad cysylltwch â Cheryl Galt ar 01978 352357.

Bydd y Corff Llywodraethu yn ystyried arfer ei hawl i benodi'r ymgeisydd llwyddiannus ar bwynt ar y raddfa gyflog sy'n briodol i'w sgiliau a'i arbenigedd, yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.

Mae angen cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

I ymgeisio: lawrlwythwch y ffurflen gais PDF sydd ar gael ar y dudalen we www.wrexham.gov.uk/jobs neu e-bost hrservicecentre@wrexham.gov.uk

DYCHWELWCH Y FFURFLEN GAIS WEDI'I LLENWI YN UNIONGYRCHOL AT GADEIRYDD Y LLYWODRAETHWYR ar e-bost

HEATHER OWEN, CADEIRYDD Y LLYWODRAETHWYR trwy ebost at

Owenh179@hwbcymru.net

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.

Noder bod pob swydd mewn ysgol yn destun gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

DYDDIAD CAU: 23ain Chwefror 2024

PROSES GYFWELD YN CYCHWYN: 4ydd o Fawrth, 2024

CYFWELIADAU: 14eg o Fawrth 2024