MANYLION
- Lleoliad: Colwyn Bay,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 16 Ionawr, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Dim ond gweithwyr mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ellir ymgeisio am y swydd hon.
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Mae angen rhywun brwdfrydig ac ymroddedig i ddarparu arweiniad a chefnogaeth strategol i ysgolion a chyn-ysgol Conwy i gyflwyno anghenion iechyd a lles a ddiffiniwyd yng Nghwricwlwm i Gymru. Hefyd, sefydlu a chyflwyno ymateb partneriaeth iechyd a lles yn ysgolion a chyn-ysgol Conwy a darparu cyngor a chefnogaeth i weithredu'n strategol y rhaglenni iechyd a lles sy'n seiliedig ar dystiolaeth a hyfforddiant i bob ysgol.
Bydd yr unigolyn hwn/hon yn rheoli, datblygu a gweithredu Cynllun Ysgolion Iach Conwy yn unol â thargedau ac anghenion cenedlaethol i wreiddio ethos a diwylliant sy'n hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol mewn ysgolion a lleoliadau cyn-ysgol.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n rhygl drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg yn hanfodol.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Dafydd Aled Williams, Rheolwr Gwasanaethau Iechyd a Lles Addysg, 01492 575580 / Dafydd.aled.williams@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i'w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.