MANYLION
- Lleoliad: Ysgol Ardudwy, Harlech,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Manylion
Hysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL ARDUDWY
(Ysgol Gyfun 11 - 16: 324 o ddisgyblion)
TRYDYDD HYSBYSEB
Yn eisiau: Cyn gynted a phosib.
Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 3
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas. Brif ddyletswyddau yn cynnwys arolygu dosbarthiadau yn ystod absenoldeb cyfnod byr athrawon, arolygu arholiadau a rhoi cymorth ychwanegol i ddisgybl neu grŵp o ddisgyblion yn ôl yr angen.
Oriau gwaith: 26.25 awr yr wythnos
(40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a'ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i'r oriau arferol).
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7-11 (£15,219- £16,275 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol a'r Pennaeth, Mr. Aled Williams B.Sc. (Rhif Ffôn 01766 780331 neu pennaeth@ardudwy.ysgoliongwynedd.cymru
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mrs. Fiona Williams, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Ardudwy, Harlech, LL46 2UH Rhif ffôn 01766 780331 e-bost: sg@ardudwy.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU HANNER DYDD, DDYDD LLUN, 18 O RAGFYR, 2023.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
(The above is a re-advertisement for the post of a Learning Support Assistant Level 3 at Ysgol Ardudwy for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.
Manylion Person
MANYLEB PERSON
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
DYMUNOL
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
DYMUNOL
ANGHENION IEITHYDDOL
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
PWRPAS Y SWYDD
PRIF DDYLETSWYDDAU
Goruchwyliwr Cyflenwi
Cefnogi disgyblion wrth oruchwylio dosbarthiadau yn absenoldeb yr athro/athrawes gan gynwys:
Arolygwr Arholiadau Mewnol ac Allanol
Cefnogaeth i Ddisgyblion
Gwaith Gweinyddol
Conorthwyo'r Tim Staff Ategol yn ôl y galw ar gais y Rheolwr Busnes a Chyllid / Pennaeth drwy gyflawni tasgau clerigol a gweinyddol ar gais, e.e. lungopïo, casglu arian, ffeilio, gweinyddu gwaith cwrs, dosbarthu llythyrau i rieni ac ati.
Cefnogaeth i'r Ysgol

- Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.
- Gweithio'n adeiladol fel rhan o dîm
- Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldebau a chyfrannu syniadau
- Personoliaeth ddigynnwrf a hyblyg.
- Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
- Sgiliau rhifedd/llythrennedd, cyfwerth a lefel 2 o'r fframwaith cymwysterau cenedlaethol.
DYMUNOL
- NVQ lefel 3 ar gyfer Cymorthyddion addysg neu gymhwyster cyfwerth.
- Hyfforddiant yn y strategaethau perthnasol i gefnogi dysgu, e.e. llythrennedd neu feysydd clyw penodol, iaith arwyddo, dyslecsia, TGaCh, Mathemateg a Saesneg.
- Hyfforddiant cymorth cyntaf priodol.
- Hyfforddiant Amddiffyn Plant
- Hyfforddiant llwybr dysgu i gymorthyddion dysgu - Rhaglen Cymorthyddion wrth eu gwaith.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
- Profiad o weithio mewn amgylchedd dysgu gyda phlant o'r oedran priodol.
- Profiad o ddefnyddio ystod o strategaethau i ddelio gydag ymddygiad dosbarth yn ei gyfanrwydd a hefyd anghenion ymddygiad unigol.
- Profiad o weithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
- Yn gallu defnyddio TGaCh yn effeithlon i gefnogi dysgu.
- Gallu cyfathrebu'n effeithiol, yn llafar ac yn ysgrifenedig, gyda chynulleidfa eang.
- Gwybodaeth weithio lawn o bolisïau /côd ymarfer perthnasol a deddfwriaeth berthnasol.
- Dealltwriaeth o reoliadau Iechyd a Diogelwch.
- Sgiliau paratoi a chreu adroddiadau a dogfennau clir, cryno ac effeithiol.
- Bod â'r sgiliau angenrheidiol i reoli gweithgareddau dosbarth a'r lle dysgu ffisegol yn ddiogel.
- Y gallu i hunanwerthuso anghenion dysgu a cheisio cyfleoedd dysgu yn weithredol.
DYMUNOL
- Gwybodaeth weithio o'r cwricwlwm cenedlaethol, llwybrau 14-19, a rhaglen/strategaethau dysgu sylfaenol eraill fel y bo'n briodol.
- Deall egwyddorion datblygiad a phrosesau dysg plentyn.
ANGHENION IEITHYDDOL
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
PWRPAS Y SWYDD
- Gweithio o dan arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol o fewn cyfundrefn gytøn o oruchwyliaeth.
- Goruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb tymor byr yr athro/athrawes. Prif ffocws cyflenwi o'r fath fydd ymateb i gwestiynau, cynorthwyo disgyblion i ymgymryd â gweithgareddau a osodwyd ac aros ar y dasg a chynnal trefn.
- Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu. Gallai hyn gynnwys y rhai sydd angen gwybodaeth fanwl ac arbenigol mewn meysydd penodol.
PRIF DDYLETSWYDDAU
Goruchwyliwr Cyflenwi
Cefnogi disgyblion wrth oruchwylio dosbarthiadau yn absenoldeb yr athro/athrawes gan gynwys:
- Cofrestru a chofnodi presenoldeb disgyblion yn y sesiwn cofrestru boreuol ac mewn gwersi pan fydd athrawon yn absennol.
- Cyfarwyddo disgyblion ynghylch y gwaith a adawyd gan eu hathro/hathrawes.
- Darparu'r adnoddau angenrheidiol i'r myfyrwyr ar gyfer eu dysgu.
- Sicrhau yr eir i mewn i'r dosbarthiadau ac y deuir allan ohonynt yn drefnus.
- Creu amgylchedd tawel a phwrpasol lle gall disgyblion gwblhau gwaith a osodwyd gan yr athro dosbarth.
- Ymateb i gwestiynau gan ddisgyblion ynglŷn â sut i gwblhau'r gwaith.
- Dilyn cyfundrefnau a gweithdrefnau ysgol ar reoli ymddygiad.
- Rheoli adnoddau'n effeithlon a sicrhau y gadewir dosbarthiadau'n daclus ac yn barod ar gyfer y wers nesaf.
- Casglu unrhyw waith a gwblhawyd ar ôl y wers a'i ddychwelyd i'r athro priodol.
- Cysylltu â'r athro/athrawes mewn perthynas â gwaith cyflenwi.
Arolygwr Arholiadau Mewnol ac Allanol
- Cefnogi'r Swyddog Arholiadau i baratoi'r Ystafell Arholi i gynnal arholiadau
- Sicrhau trefn briodol a darparu cymorth yn yr ystafell arholiad dan arweiniad y Swyddog Arholiadau
Cefnogaeth i Ddisgyblion
- Goruchwylio a darparu cefnogaeth arbennig ar gyfer disgyblion, yn cynnwys rhai gydag anghenion addysgol ychwanegol, gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad i weithgareddau dysgu.
- Cynorthwyo gyda dysgu a datblygu pob disgybl, yn cynnwys gweithredu Cynlluniau Addysg / Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol.
- Hybu cynnwys a derbyn pob disgybl.
- Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro/athrawes.
- Gosod disgwyliadau heriol ac ymestynnol a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.
- Darparu adborth manwl a rheolaidd i'r athrawon ar gyflawniad, cynnydd, problemau disgyblion, ayyb.
Gwaith Gweinyddol
Conorthwyo'r Tim Staff Ategol yn ôl y galw ar gais y Rheolwr Busnes a Chyllid / Pennaeth drwy gyflawni tasgau clerigol a gweinyddol ar gais, e.e. lungopïo, casglu arian, ffeilio, gweinyddu gwaith cwrs, dosbarthu llythyrau i rieni ac ati.
Cefnogaeth i'r Ysgol
- Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy'n berthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeled, cyfrinachedd a gwarchod data, a chydymffurfio â hwy, gan adrodd am bob pryder wrth unigolyn priodol. Dylai hyn hefyd, ar gyfer goruchwylwyr cyflenwi, gynnwys rheoli ymddygiad.
- Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Cymreig.
- Gwerthfawrogi a chefnogi rhan proffesiynolwyr eraill.
- Sefydlu perthynas bwrpasol a chyfathrebu gydag asiantaethau/proffesiynolwyr eraill, mewn cysylltiad â'r athro/athrawes, i gefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.
- Mynychu cyfarfodydd rheolaidd a chyfranogi ynddynt.
- Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, fel y bo'n ofynnol.
- Adnabod cryfderau a meysydd arbenigedd yr hunan a defnyddio'r rhain i gynghori a chefnogi eraill.
- Darparu arweiniad a goruchwyliaeth priodol a chynorthwyo yn hyfforddiant a datblygiad staff cynhaliol eraill fel y bo'n briodol.
- Ymgymryd â goruchwylio cynlluniedig o weithgareddau dysgu'r disgyblion y tu allan i oriau ysgol.
- Goruchwylio'r disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol.
- Goruchwylio'r disgyblion yn ystod amseroedd egwyl a chinio o fewn oriau cytuniedig.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi