MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Tryfan, Bangor,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes - Ysgol Tryfan, Bangor

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ATHRO / ATHRAWES (DROS DRO) - YSGOL TRYFAN, BANGOR

Yn eisiau: 1af o Fedi, 2024 - Cytundeb dros dro am flwyddyn hyd at 31/8/2025

(Cyfun 11 - 18; 536 o ddisgyblion)

Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod gan athrawon egnïol a brwdfrydig. Bydd y sawl a benodir yn cael ei gyflogi dan y Cynllun Pontio Cynradd-Uwchradd Llywodraeth Cymru. Gweler y manylion pellach (swydd ddisgrifiad) am fwy o fanylion am y cynllun. Mae'r pwnc i'w benderfynu ynghyd a'r oriau gwaith.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£30,742 - £47,340) yn ôl profiad a chymwyster (pro rata os yw'r swydd yn rhan amser).

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Ceir mwy o fanylion am y cyfle hwn drwy ddilyn dolen Cynllun pontio cynradd i uwchradd cyfrwng Cymraeg neu os hoffech drefnu ymweliad â'r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth, Dr Geraint Owen Jones ar rif ffon 01248 352633 neu drwy e-bost pennaeth@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru

Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i'r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi'r ffurflen gais sydd wedi'i atodi i'r hysbyseb hon gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru trwy AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru erbyn y dyddiad cau, sef dydd Gwener, 23 Chwefror 2024.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

(The above is an advertisement for a temporary post for a Teacher at Ysgol Tryfan, Bangor who will be employed under the Primary to Secondary Welsh-medium Conversion Programme for which the ability to teach through the medium of Welsh and English is essential.

The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.).

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

Cynllun pontio cynradd i uwchradd cyfrwng Cymraeg - Hwb (gov.wales)

Swydd: Athro / Athrawes

Graddfa Cyflog Athrawon

Mae'r ysgol yn awyddus i benodi Athro / Athrawes Cynradd sydd â diddordeb mewn trosglwyddo i'r sector uwchradd fel rhan o gynllun pontio Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o'r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Ysgol Tryfan am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd. Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar o'r sector cynradd sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol uwchradd. Yn ogystal, croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu athrawon sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn.

Mae Ysgol Tryfan yn ysgol ddwyieithog ar gyfer disgyblion 11 i 18 oed sydd yn cael ei chynnal gan awdurdod lleol Gwynedd. Mae'r ysgol wedi'i lleoli yn ninas Bangor, ac yn gwasanaethu dalgylch trefol. Mae 536 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 76 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth.

Mae'r cynllun peilot yn cynnig blwyddyn o gyflogaeth yn Ysgol Tryfan i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor byddwch yn derbyn cefnogaeth i drosglwyddo'n llwyddiannus i addysgu yn y sector uwchradd. Bydd ffocws penodol ar yr agweddau canlynol:

  • Cynllunio gwersi
  • Asesu, marcio ac adborth
  • Rheolaeth ddosbarth
  • Datblygu dycnwch
  • Sgiliau ieithyddol (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn).

Bydd gennych Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn cynnal deialog broffesiynol rheolaidd er mwyn eich cefnogi. Bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu.

Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae'r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.

Mae'r cynllun hwn wedi'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru.

Proses ymgeisio:

Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i'r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi'r ffurflen gais sydd wedi'i atodi i'r hysbyseb hon gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru trwy AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru erbyn y dyddiad cau, sef dydd Gwener, 23 Chwefror 2024.

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn yr ysgolion partner rhwng 11-15 Mawrth 2024.

Mae mwy o fanylion am y cyfle hwn ar Cynllun pontio cynradd i uwchradd cyfrwng Cymraeg neu os hoffech drefnu ymweliad â'r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth - Dr Geraint Owen Jones ar rif ffon 01248 352633 neu drwy e-bost pennaeth@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru