MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Ionawr, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro Dosbarth

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Gymunedol Gwenfro

Pennaeth - Mrs K. Owen-Jones

Athro CA2 Dros Dro Rhan-amser - 0.4 + CPA (2 ddiwrnod yr wythnos)

I ddechrau fis Chwefror 2024 dros Gyfnod Mamolaeth

MPS / UPS

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymunedol Gwenfro yn dymuno penodi athro dosbarth creadigol a brwdfrydig i gyflenwi dros Gyfnod Mamolaeth mewn dosbarth cymysg CA2 (Blynyddoedd 5 a 6). Croesewir ceisiadau gan athrawon sydd newydd gymhwyso (câi amser ychwanegol ei ychwanegu at y contract).

Mae'n ofynnol bod ymgeiswyr:

• Yn meddu ar ddealltwriaeth bendant o Gwricwlwm Cymru a strategaethau dysgu effeithiol

• Yn medru modelu arfer rhagorol a sgiliau rheoli ymddygiad yn y dosbarth

• Yn ymrwymo i godi safonau addysgu a dysgu i sicrhau bod yr holl blant yn cyflawni eu llawn botensial

• Yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol da a gallu gweithio'n effeithiol mewn tîm

• Yn ymrwymo i ddefnyddio a datblygu technoleg ddigidol

• Yn frwd dros hybu lles disgyblion.

Gwahoddir yr ymgeiswyr ar y rhestr fer i'r ysgol er mwyn arsylwi gwers cyn y cyfweliad.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Mrs. Sally Evans - Rheolwr Busnes yr Ysgol.

LLENWCH Y FFURFLEN GAIS A'I HANFON YN UNIONGYRCHOL AT BENNAETH YR YSGOL

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chaisa gyflwynir yn y Saesneg.
DYDDIAD CAU: Hanner dydd, dydd Llun 15 Ionawr 2024 CYFWELIADAU: Dydd Llun 22 Ionawr 2024