MANYLION
  • Lleoliad: Caernarfon,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Ionawr, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Rheolwr Cynorthwyol Cynhwysiad Dros Dro

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD

Yn eisiau: Cyn gynted â phosib

Rheolwr Cynorthwyol Cynhwysiad Dros Dro

Swydd dros dro hyd at flwyddyn o'r penodiad yn y lle cyntaf (Gellir ystyried Secondiad)

Gwahoddir ceisiadau gan unigolion ymroddedig a brwdfrydig sy'n barod i fod yn rhan o'r Gwasanaeth Cynhwysiad .

Mae'r gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth i ysgolion er mwyn parhau i wella cyrhaeddiad pob disgybl yng Ngwynedd ac Ynys Môn ac edrychwn ymlaen at groesawu cydweithwyr profiadol, arloesol ac egnïol i ymuno â'r gwasanaeth.

Prif bwrpas y gwasanaeth, drwy gydweithio â phenaethiaid, staff, llywodraethwyr, cynghorwyr sir a swyddogion awdurdodau lleol eraill, yw cefnogi pob agwedd ar Gynhwysiant er mwyn sicrhau'r cyfleoedd a'r canlyniadau gorau i bob dysgwr yng Ngwynedd ac Ynys Môn

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg ar Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon.

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Ellen Rowlands ar 01286 679007 E-bost: ellenrowlands@gwynedd.llyw.cymru

Dyddiad cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru

CYFLOG: £40097.00 - £44758.00 (+3 SPA) y flwyddyn.

DYDDIAD CAU: 10.00 O'R GLOCH, 15/01/2024

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Yn benderfynol o leihau'r bwlch i ddysgwyr bregus

Chwaraewr tîm cryf ac effeithiol

Deall yr angen i sicrhau canlyniadau gwerth am arian a defnyddio tystiolaeth.

Sensitif, tactegol a diplomyddol

Hyblyg, parhaus a gwydn

Rheoli amser ac adnoddau yn effeithiol

Adolygu a gwerthuso ffyrdd o weithio

Yn ymgysylltu'n effeithiol ag ystod eang o bobl, gan gynnwys dysgwyr, rhieni, Penaethiaid a gweithwyr proffesiynol eraill

Cyfathrebwr effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Yn cynnal cyfrinachedd ac yn gweithio gyda disgresiwn.

Cydweithio a thrafod gydag amrywiaeth o asiantaethau
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Cymhwyster lefel gradd sy'n gysylltiedig ag addysg

Gwybodaeth a phrofiad helaeth o weithio gydag ysgolion a theuluoedd

Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
Dymunol
-
Profiad perthnasolHanfodol
Profiad llwyddiannus o addysgu

Profiad o weithio gyda disgyblion a phroblemau ymddygiadol/emosiynol

Profiad o hyfforddi a mentora

Profiad o weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid.

Profiad o ddatblygu, rheoli, sicrhau a gwerthuso ansawdd prosesau a mentrau i sicrhau canlyniadau da
Dymunol
-
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r prif faterion a'r datblygiadau addysgol a chyfreithiol sy'n wynebu ysgolion ac awdurdodau yn y maes ADY a Chynhwysiad

Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r prif faterion ym maes / gweithdrefnau Diogelu Plant

Gwybodaeth rhagorol o addysgeg effeithiol

Gwybodaeth am ddeddfwriaeth, canllawiau a pholisïau presenoldeb.

Gwybodaeth am ddeddfwriaeth, canllawiau a pholisïau mewn perthynas â Gwaharddiadau

Dealltwriaeth dda o flaenoriaethau a dulliau gweithredu cyfredol sy'n ymwneud ag anghenion plant a phobl ifanc sydd yn agored i niwed

Gwybodaeth drylwyr o fframwaith adolygu Estyn

Dealltwriaeth drylwyr o reoliadau a gweithdrefnau i ddiogelu disgyblion a staff o fewn y ddarpariaeth cynnal ymddygiad

Dealltwriaeth gadarn o'r ethos a'r gwerthoedd sy'n sicrhau ysgolion cynhwysol a llwyddiannus

Ymwybodol o Strategaeth ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn

Dealltwriaeth o Gynlluniau Datblygu Unigol
Dymunol
-
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud

• Cyfrannu'n sylweddol at brif nod yr Awdurdodau sef gofalu bod ein holl ddisgyblion yn cyflawni eu potensial llawn

• Cefnogi Rheolwr Cynhwysiad i sicrhau bod y Gwasanaeth yn cyflawni yw llawn potensial drwy arwain ar dasgau a phrosiectau penodol .

• Cyd-lynu gwelliannau yn unol a cyfarwyddyd Rheolwr Cynhwysiad.

• Dirprwyo i Rheolwr Cynhwysiad a chynrychioli'r Gwasanaeth yn unol ar angen

• Datblygu, arwain a rheoli ar brosiectau penodol o fewn y maes gwaith yn cynnwys cyfrifoldeb am gyllid, staff ac adrodd yn ôl y gofyn.Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Unrhyw gyllideb, Adnoddau a staff sydd yn gysylltiedig a grantiau

• Unrhyw gyllid wedi ddethol gan y Rheolwr Cynhwysiad

• Rheoli cytundebau yn ôl y gofyn gan gynnwys cytundebau safon Gwasanaeth gyda rhannau eraill o'r ddwy Awdurdod
Prif ddyletswyddau
• Sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau statudol dros sicrhau presenoldeb ac ymddygiad da tra'n hyrwyddo lefelau uchel o gynhwysiant cymdeithasol a lles drwy werthusiad, cefnogaeth a, lle bo angen, ymyrraeth, yn enwedig i'n dysgwyr mwyaf agored i niwed a'r dysgwyr sydd yn blant mewn gofal

• Sicrhau bod anghenion dysgwyr sy'n agored i niwed yn cael eu diwallu'n llawn drwy waith y Tîm Cynhwysiant gyda phwyslais allweddol ar godi presenoldeb a lleihau gwaharddiadau.

• Sicrhau'r cymorth mwyaf priodol i atal dysgwyr bregus rhag cael eu heithrio a'r rhai sydd mewn perygl o anfodlonrwydd

• Cyfrannu yn effeithiol at sicrhau ansawdd darpariaeth addysgol ar gyfer disgyblion sydd yn derbyn cymorth gan y Gwasanaeth Cynhwysiad gan gynnwys y rhai mewn ysgolion prif ffrwd, Canolfan Cylchdro, Hybiau addysg ac Addysg heblaw mewn lleoliadau ysgol

• Cynllunio ,hwyluso a lle bo'n briodol cyfrannu at ddarparu rhaglenni hyfforddi effeithiol sydd a'r nod o godi safonau, datblygu arbenigedd athrawon, gwella presenoldeb a lleihau gwaharddiadau

• Darparu arweiniad a chymorth rheoli gweithredol i waith y Tîm Cynhwysiant a chefnogi ysgolion i leihau gwaharddiadau a defnydd effeithiol o'r polisi symudiadau a reolir

• Broceri cymorth arbenigol lle bo angen i atal gwaharddiadau disgyblion cynradd ac uwchradd.

• Sicrhau bod ysgolion yn cael eu cefnogi'n effeithiol ynghylch gwaharddiadau posib gyda'r bwriad o leihau lefel y gwaharddiadau

• Gweithredu prosesau ail-integreiddio effeithiol

• Cynrychioli'r Awdurdod Addysg yn ôl yr angen a sicrhau tegwch mewn cyfarfodydd lle trafodir disgyblion sydd mewn perygl o gael ei gwahardd yn barhaol.

• Cynrychioli'r Awdurdod Addysg yn ôl yr angen a chymryd cyfrifoldeb dros barhad addysg ddisgyblion sydd wedi ei gwahardd yn barhaol

• Darparu cymorth rheoli gweithredol i sicrhau bod addysg ddewisol yn y cartref (EHE) a Addysg y tu allan i'r ysgol yn briodol ac yn diwallu anghenion dysgwyr.

• Sicrhau bod continwwm o gefnogaeth i ymddygiad yn effeithiol ym mhob lleoliad dysgu yn yr Awdurdod.

• Darparu sicrwydd ansawdd cadarn o'r addysg a ddarperir i ddisgyblion sy'n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol yn bennaf yn yr hybiau CA3 /4

• Cydweithio ac ymgynghori rheolaidd gyda'r Uwch Seicolegydd Ymddygiad a Chynhwysiad ac y Swyddogion Ansawdd ADYaCH ar gyfer cynllunio ymyraethau addas ar gyfer y disgyblion sydd yn derbyn cefnogaeth

• Cyd-weithio gyda thimau eraill yn yr Adran i sicrhau dull cyd gysylltiedig o oruchwylio a rhannu data a gwybodaeth cyflawniad yn effeithiol ar draws y gwasanaeth a'r Adran fel y bo'n briodol.

• Cyfleu gweledigaeth a rennir sy'n hyrwyddo presenoldeb da a chyfraddau gwahardd isel wrth sicrhau lefelau uchel o gynhwysiant cymdeithasol a lles dysgwyr, yn enwedig i'n dysgwyr mwyaf agored i niwed a'r dysgwyr hynny sy'n derbyn gofal.

• Hyfforddi fel hyfforddwr ardystiedig yn y maes cynnal ymddygiad er mwyn darparu hyfforddiant mewn ysgolion ar draws yr ALl fel y bo'n briodol.

• Monitro gweithrediad arferion cyfyngol fel y bo'n briodol

• Cefnogi penderfyniadau ynghylch y dull sydd i'w weithredu ar gyfer ysgolion sy'n wynebu heriau, gan gyfeirio'n benodol at hyrwyddo presenoldeb da a lleihau gwaharddiadau wrth sicrhau lefelau uchel o gynhwysiant cymdeithasol a lles dysgwyr, yn enwedig i'n dysgwyr mwyaf agored i niwed a'r dysgwyr hynny sy'n derbyn gofal;

• Cynnal trefniadau gweithio agos gyda darpariaeth rheoli data yr Adran ac ysgolion

• Gweithredu polisïau, strategaethau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol sy'n hyrwyddo ac yn cyfrannu at gynhwysiant cymdeithasol ac addysgol disgyblion yn eu cymunedau

• Sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol

• Darparu cyngor a chymorth proffesiynol i ysgolion wella presenoldeb a lleihau gwaharddiadau plant a phobl ifanc.

• Cymryd cyfrifoldeb dirprwyedig dros reoli cyllidebau ariannol a ddyrannwyd gan sicrhau bod y tîm yn defnyddio'r adnoddau sydd ar gael i fodloni gofynion gwasanaeth mewn ffordd hyblyg a chreadigol

• Monitro ansawdd darpariaeth yr hybiau, a chymryd camau priodol i sicrhau gwelliannau drwy adolygu'r ddarpariaeth yn barhaus fel ei bod yn diwallu anghenion, o ansawdd uchel ac yn effeithlon, gan sicrhau bod fframweithiau ansawdd, cytundebau lefel gwasanaeth ar waith.

• Monitro a gwerthuso canlyniadau'r gwasanaeth yn barhaus yn erbyn safonau y cytunwyd arnynt, gan godi unrhyw faterion/problemau gyda'r Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiad

• Mynychu cyfarfodydd, yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol ,sy'n ymwneud a phresenoldeb, cynhwysiant a lles ar gais Rheolwr Cynhwysiad

• Gweithio'n Aml Asiantaethol-Sicrhau cyswllt gweithredol gyda sefydliadau addysgol a phartneriaid addysgol eraill.

• Bod yn Aelod rhagweithiol o banel disgyblion bregus bl11 a chyfrannu at yr agenda i leihau NEET's.

• Arwain ar gynnal unrhyw ymarferion caffael a rheoli cytundebau

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• -

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi