MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Cymraeg a Saesneg (Gyfnod Mamolaeth) - Ysgol y Moelwyn

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL Y MOELWYN, BLAENAU FFESTINIOG

(Cyfun 11 - 16; 361 o ddisgyblion)

Yn eisiau: ar gyfer 8 fed o Ebrill 2024,

Athro Cymraeg a Saesneg

(SWYDD DROS GYFNOD MAMOLAETH)

Swydd dros dro yw hwn yn ystod cyfnod mamolaeth un o athrawon yr ysgol. Daw'r swydd i ben ar ddychweliad deiliad y swydd i'w Gwaith.

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£30,742 - £47,340) y flwyddyn i'r ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol i'r swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Mrs Eleri Moss rhif ffôn 01766 830435, e-bost:-

pennaeth@moelwyn.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Ms. Gwerfyl Jarrett, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Y Moelwyn, Heol Wynne, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3DW, (Rhif ffôn 01766 830435,) e-bost: sg@moelwyn.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 12:00Y.H, DYDD GWENER, 15 O RAGFYR, 2023.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

( This is an advertisement for a Welsh and English teacher (Maternity Cover)at Ysgol y Moelwyn for which the ability to teach through the medium of Welsh and English is essential)

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Brwdfrydig ac ymroddgar.
Ymrwymedig i welliant parhaus.
Ymgorffori gweledigaeth yr ysgol.
Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL
Gradd Anrhydedd.
Statws athro/athrawes wedi cymhwyso.

DYMUNOL
Gradd Uwch neu gymhwyster cyfwerth.
Tystiolaeth o ddatblygiadau proffesiynol parhaus perthnasol.

PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o ddatblygu strategaethau ysgol gyfan mewn meysydd allweddol megis addysgu a dysgu a neu lles a chynhwysiad.
Profiad o sefydlu ac adeiladu partneriaethau gyda rhieni, y gymuned a gyda phartneriaid eraill.

DYMUNOL
Tystiolaeth o brofiad cyson a pherthnasol o arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol.
Tystiolaeth o weithio'n effeithiol gyda llywodraethwyr.

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau cyfoes mewn addysg yn lleol ac yn genedlaethol.
Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu o ansawdd, addysgu ac asesu yn y sector cynradd/uwchradd
Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o brosesau gwella'r ysgol.
Meddu ar wybodaeth gadarn o strategaethau gweithredu sy'n sicrhau safonau uchel o ymddygiad a phresenoldeb.
Gallu paratoi strategaethau ar gyfer sicrhau cynhwysiad cymdeithasol, amrywiaeth a mynediad.
Meddu ar wybodaeth dda o rôl y corf llywodraethol ac yn gallu gweithredu strategaethau gwelliant parhaus ac atebolrwydd.
Meddu ar wybodaeth dda o'r cwricwlwm ehangach tu hwnt i'r ysgol a'r cyfleoedd ar gyfer disgyblion a chymuned yr ysgol.
Dangos brwdfrydedd personol at y defnydd o'r Iaith Gymraeg yn yr ysgol.
Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau diweddaraf addysg yn genedlaethol.

ANGHENION IEITHYDDOL

Gallu cynnal a dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoir o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Sgiliau Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnoleg ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosibl cael cymorth i wirio'r iaith).

Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir
rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.

Swydd Ddisgrifiad

Swydd Ddisgrifiad athro Cymraeg a Saesneg Ysgol y Moelwyn

SWYDD: Athro/Athrawes Cymraeg a Saesneg

AMODAU GWAITH: Athrawon. ATEBOL I: Pennaeth.

CYFRIFOLDEB AM: Ddysgu Cymraeg a Saesneg CYFLOG: Graddfa Athrawon

DYLETSWYDDAU: Bydd pob athro a gyflogir yn yr ysgol yn gweithredu:
• Pob cais neu gyfarwyddyd rhesymol a roddir gan y Pennaeth a/neu ei gynrychiolydd.
• Cod ymddygiad y Cyngor Gweithlu Addysg.
• Safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth
• Polisïau'r ysgol.

Swydd ddisgrifiad
• Sicrhau lles a diogelwch pob disgybl o dan ei ofal. Tynnu sylw'r Pennaeth Adran a`r pennaeth cynnydd neu'r Pennaeth at unrhyw broblem.
• Cynnig addysg o'r radd flaenaf i'r disgyblion, gan dalu sylw teilwng i oed, gallu a diddordebau'r unigolion.
• Creu a chynnal man gwaith deniadol a phleserus, gan ddefnyddio arddangosfeydd o waith plant a staff yn rheolaidd, ac annog y disgyblion i gadw'r ystafelloedd dysgu yn lân ac yn daclus.
• Cynllunio ac addysgu gwersi i'r dosbarthiadau y caiff ei neilltuo i'w haddysgu yng nghyd-destun cynlluniau, cwricwlwm a chynlluniau gwaith yr ysgol.
• Cynllunio a pharatoi gwersi yn ofalus a thrylwyr.
• Paratoi deunyddiau dysgu ac addysgu ar gyfer y gwersi a ddysgir.
• Sicrhau fod adnoddau/deunyddiau/offer perthnasol ac addas yn barod ymlaen llaw.
• Sicrhau fod gwersi yn cychwyn ac yn gorffen ar amser a bod y disgyblion yn cael eu derbyn i'r dosbarth a'u hanfon allan dan reolaeth a threfn.
• Dysgu â brwdfrydedd gan ymestyn pob disgybl a roddir i'w ofal hyd eithaf ei allu.
• Gosod a marcio gwaith y disgyblion.
• Monitro cynnydd academaidd y disgyblion yn ei ofal gan asesu, cofnodi ac adrodd (ar lafar ac yn ysgrifenedig) ar ymddygiad, ymdrech, cyrhaeddiad a chynnydd pob disgybl. Hysbysu'r Pennaeth Adran a'r Pennaeth cynnydd o'r cynnydd neu unrhyw broblem.
• Ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
• Hunanarfarnu safonau ac arferion dysgu o fewn y grwpiau a ddysgir.
• Cynnig cyfarwyddyd a chyngor ar faterion addysgol, cymdeithasol, ar addysg bellach a gyrfa.
• Paratoi adroddiadau ysgrifenedig i'r rhieni yn unol â pholisïau'r ysgol ac yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth Adran.
• Darparu adroddiadau achlysurol ar gynnydd disgyblion yn ôl y galw.
• Cyflawni dyletswyddau bore, egwyl a phrynhawn yn unol â Pholisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol a'r amserlen a gyhoeddir ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.
• Mynychu cyfarfodydd amrywiol yn unol â threfniadau'r ysgol.
• Mynychu Nosweithiau Rhieni yn ôl y galw er mwyn trafod datblygiadau disgyblion.
• Mynychu cyfarfodydd eraill yn ôl y galw, gan gynnwys y tu allan i oriau arferol yr ysgol.
• Gweithio ag eraill ar ddatblygiad disgyblion a/neu'r cwricwlwm, er mwyn sicrhau canlyniadau cydgysylltiedig.
• Ysgwyddo cyfrifoldeb am ei ddatblygiad proffesiynol ei hun a chyfrannu i'w ddatblygiad personol a phroffesiynol ei hun gan fynychu sesiynau dysgu proffesiynol yn ôl y galw.
• Hybu blaenoriaethau presennol yr ysgol megis: Cwricwlwm i Gymru, gweithredu 4 diben, sgiliau dysgu estynedig, hybu ymddygiad da, llythrennedd, rhifedd, y defnydd o sgiliau meddwl a dysgu cyfunol.
• Cyfrannu'n bwrpasol i ddatblygu Ysgol y Moelwyn i fod yn ganolfan sy'n cynrychioli'r arferion a'r safonau proffesiynol uchaf.
• Cydweithio`n effeithiol a pharchus fel aelod o dîm proffesiynol.

Mae'r uchod yn disgrifio'r ffordd y disgwylir i'r deilydd weithredu a chwblhau y dyletswyddau a nodir. Gellir amrywio'r dyletswyddau i gyfarfod â newidiadau mewn gofynion yr ysgol yn ôl disgresiwn y Pennaeth.

Eleri O. Moss (Pennaeth). Tachwedd 2023.

Copi: Pob aelod o`r staff dysgu.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi