MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Lefel 2 Cynorthwyydd Gweinyddol

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

YSGOL RHIWABON

Rhiwabon

Wrecsam

LL14 6BT

Ffôn: 01978 822392

Ebost: mailbox@rhiwabon-high.wrexham.sch.uk

www.ysgolrhiwabon.co.uk

Pennaeth: Mrs Melanie Ferron-Evans

Lefel 2 Cynorthwyydd Gweinyddol

G04 £19,650 - £19,979 y flwyddyn

£12.18 - £12.38 yr awr

37 awr yr wythnos

Dydd Llun i ddydd Iau, 8.30am - 4.30pm gyda hanner awr i ginio, dyddGwener 8.30am - 4pm

Yn ystod y tymor yn unig

Mae'r Llywodraethwyr yn dymuno penodi Cynorthwy-ydd Gweinyddol profiadol i gefnogi gweithrediad yr ysgol gan fod yn atebol i'r Rheolwr Swyddfa yn rhan o'n Tîm Gweinyddol.

Bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd weithio mewn tîm yn ogystal ag ar liwt ei hun, gan fod yn rhagweithiol a blaenoriaethu gwaith i gwrdd â therfynau amser. Bydd deiliad y swydd yn darparu ystod o swyddogaethau cefnogi, yn cynnwys ymateb i ymholiadau ymwelwyr, dyletswyddau blaen tŷ, llungopïo adnoddau a thasgau gweinyddol eraill.

Rydym ni'n chwilio am rywun a fydd:

• Yn gynnes, yn groesawgar ac yn hyrwyddo perthnasau cadarnhaol â budd-ddeiliaid yr ysgol.

• Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog a gallu dangos sgiliau trin pobl da a gwytnwch.

• Dangos sgiliau llythrennedd a rhifedd cryf a sgiliau TG rhagorol ar draws amrywiaeth o becynnau meddalwedd a phlatfformau cyfathrebu.

Profiad o weithio mewn amgylchedd tebyg a byddai gwybodaeth am systemau rheoli gwybodaeth ysgol/SIMS yn fuddiol.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mrs Emma Williams dros y ffôn ar 01978 814962 neu drwy e-bost at williamse45@hwbcymru.net

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:

williamse45@hwbcymru.net

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Dyddiad cau: Dydd Llun 11 Rhagfyr 2023