MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Goruchwyliwr Cyflenwi (Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3) (Ysgol Llanfyllin)

Cyngor Sir Powys
Goruchwyliwr Cyflenwi (Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3) (Ysgol Llanfyllin)
Swydd-ddisgrifiad
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:

Darparu goruchwyliaeth gyflenwi i'r dosbarth cyfan pan fydd yr athro cyfrifol ar absenoldeb tymor byr (gweler * isod).

Mae goruchwyliaeth gyflenwi'n digwydd pan fydd disgyblion yn gwneud dysgu hunangyfeiriedig, os yw'r gwaith wedi'i osod a bod y disgyblion yn gallu gweithio'n annibynnol a pharhau â'r dasg. Ni fydd addysgu gweithgar yn digwydd o gwbl yn ystod goruchwyliaeth gyflenwi.

(*Mae rhywun nad yw'n athro cymwysedig, h.y. "goruchwyliwr cyflenwi", yn gallu cyflenwi am absenoldebau tymor byr. Efallai na fydd absenoldebau felly wedi'u cynllunio ymlaen llaw, e.e. absenoldeb tymor byr oherwydd salwch neu absenoldeb brys o fath arall, neu wedi'u cynllunio ymlaen llaw, e.e. mynychu HMS neu ddatblygiad proffesiynol arall neu apwyntiad meddygol.)