MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2 (Arbennig) (Ysgol Penmaes)

Cyngor Sir Powys
Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2 (Arbennig) (Ysgol Penmaes)
Swydd-ddisgrifiad
Rydym yn ceisio penodi pedwar cynorthwyydd addysgu lefel 2. Bydd hyn ar gontract tymor penodol gyda'r dymuniad i ddechrau cynted â phosibl.

Bydd y swydd am 32.5 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig: Llun - Gwener

Bydd yr ymgeisydd a benodir yn adrodd yn uniongyrchol i'r athro dosbarth. Rydym yn chwilio am weithwyr positif, egnïol, sy'n teimlo'n angerddol dros weithio gyda dysgwyr ag ymddygiad heriol difrifol a pharhaus ac yn meddu ar agwedd gadarnhaol. Yn anad dim, rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n deall eu heffaith ac sy'n gallu cynyddu lefelau optimistiaeth, ymddygiad cadarnhaol ac egni yn y dysgwr drwy weithredu a dilyn amserlen pwrpasol.

Bydd angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus ddangos dealltwriaeth dda a meddu ar brofiad o gynorthwyo disgyblion gydag anghenion gwahanol, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r awydd i ddysgu a thyfu o fewn y rôl.

Mae'r holl gynorthwywyr dysgu ym Mhenmaes yn cefnogi athrawon y dosbarth ac yn cefnogi dysgu a lles disgyblion neu grwpiau unigol; gallant ddarparu gofal priodol i'r rhai sy'n dibynnu'n bersonol ar oedolion am eu hanghenion sylfaenol. Gall hyn gynnwys diwallu eu hanghenion defnyddio'r tŷ bach, ynghyd â'r symud a'r cario a chodi cysylltiedig.

Mae'r swydd yn gofyn am ddull ymroddedig a hyblyg gan fod lles ein holl ddisgyblion yn hynod bwysig.