MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swydd Athro / Athrawes - Blwyddyn 5/6 Swydd Wag Dros Gyfnod Mamolaeth

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Tanyfron

Ffordd Tanyfron, Tanyfron, Southsea, Wrecsam LL11 5SA

Tanyfron Road, Tanyfron, Southsea, Wrexham LL11 5SA

Ffôn: 01978 758118

E-bost: mailbox@tanyfron-pri.wrexham.sch.uk

Pennaeth / Headteacher: Mrs J. Jones

Cadeirydd y Llywodraethwyr: Mr S Wynne

Swydd Athro / Athrawes - Blwyddyn 5/6 Swydd Wag Dros Gyfnod Mamolaeth (Dros dro tan Ebrill 2024)

Ysgol Gynradd Tanyfron, Ffordd Tanyfron, Tanyfron, Wrecsam, LL11 5SA - 01978 758118

Pennaeth: Mrs J. Jones

Graddfa Gyflog: M.P.S

Mae Ysgol Tanyfron yn chwilio am athro dros gyfnod mamolaeth i addysgu dosbarth Blwyddyn 5/6 Cyfnod Allweddol 2, i ddechrau o 1 Ionawr 2024.

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Tanyfron yn dymuno penodi athro dosbarth brwdfrydig a llawn cymhelliant sy'n gallu ysbrydoli dysgwyr. Mae Ysgol Tanyfron yn ysgol ofalgar ac ymroddedig sy'n sicrhau safonau uchel ar gyfer dysgu a lles disgyblion. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

Credu mewn dull cyfannol ar gyfer addysgu a dysgu, lle mae lles disgyblion wrth wraidd yr ymarfer.

Disgwyl pethau gwych gan ddisgyblion ac yn arddangos dealltwriaeth o anghenion dysgu ac ymddygiad amrywiol y plant.

Ymwybodol o fentrau newydd o fewn y byd addysg, fel Cwricwlwm i Gymru a Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Gallu arddangos sgiliau rhyngbersonol ardderchog er mwyn gweithio o fewn y Cyfnod Allweddol a thîm yr ysgol, rheoli a chefnogi cymorthyddion addysgu yn effeithiol a chyfathrebu'n dda gyda rhieni/gwarcheidwaid.

• Yn defnyddio technoleg ddigidol yn hyderus a chreadigol.

Gallu cymryd rhan weithredol ym mywyd ehangach yr ysgol.

Anogir y sawl sydd â diddordeb i ymweld â gwefan yr ysgol am fwy o wybodaeth am yr ysgol neu ymweld â'r ysgol ar yr ymweliadau isod.

YMWELIADAU A'R YSGOL: Dydd Mawrth 28 Tachwedd am 3.30pm. Ffoniwch/anfonwch e-bost i'r ysgol i gadarnhau y byddwch yn bresennol - 01978 758118 neu mailbox@tanyfron-pri.wrexham.sch.uk

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 1 Rhagfyr, 12 canol dydd

ARSYLWI GWERS: Dydd Mawrth 5 Rhagfyr

CYFWELIADAU: Dydd Mercher 6 Rhagfyr

Bydd angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

D ylid dychwelyd y ffurflen gais yn uniongyrchol at y Pennaeth i gyfeiriad e-bost yr ysgol - mailbox@tanyfron-pri.wrexham.sch.uk

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael eto ar gyfer swyddi mewn ysgolion, felly llenwch y cais PDF sydd wedi'i atodi isod yn electronig. Os bydd yn rhaid i chi lenwi'r ffurflen â llaw, argraffwch, llenwch a dychwelwch hi i'r ysgol.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadaua gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.