MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Dirprwy Bennaeth Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION CYNRADD

DIRPRWY BENNAETH
YSGOL HAFOD LON, PENRHYNDEUDRAETH

(Ysgol Arbennig 7 - 19 oed: 115 o ddisgyblion)

CYFLOG: Ar y Raddfa Arweinyddiaeth L8 £57,064 - L12 £62,966

Dyddiad Dechrau: Ebrill 2024

Mae'r Corff Llywodraethol yn dymuno penodi Dirprwy Bennaeth brwdfrydig a blaengar, fydd yn cefnogi gweledigaeth ac ethos yr ysgol, gydag ymrwymiad i'r disgyblion, y sefydliad a'r gymuned.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau addysgu rhagorol ynghyd â sgiliau rheolaethol ac arweinyddiaeth gref.

Mae'r gallu i addysgu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol i'r swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth Mrs Donna Roberts (rhif ffôn 01766 772140) neu e-bost: Donna.Roberts@hafodlon.ysgoliongwynedd.cymru

Dylid cyflwyno cais am y swydd ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, yna gallwch gysylltu gyda Elen Jones, rhif ffôn 01758 704047 e-bost elenjones2@gwynedd.llyw.cymru

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn yr ysgol.

Rhagwelir cynnal Cyfweliad Proffesiynol dydd Mawrth, 12 Rhagfyr 2023 a Chyfweliad Swyddogol dydd Mercher, 13 Rhagfyr 2023 ar gyfer y swydd.

DYDDIAD CAU: 12 O'R GLOCH, DYDD GWENER, 1 RHAGFYR 2023

(This an advertisement for the post of a Deputy Headteacher at Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth for which the ability to teach through the medium of Welsh and English is essential. The council will require a Disclosure and Barring Service disclosure and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

Y Pum Safon Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.pdf

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL
Brwdfrydig ac ymroddgar.
Ymrwymedig i welliant parhaus.
Gallu ysbrydoli, ysgogi a gosod her i eraill.
Ymgorffori gweledigaeth yr ysgol.
Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL
Gradd Anrhydedd.
Statws athro/athrawes wedi cymhwyso.

DYMUNOL
Gradd Uwch neu gymhwyster cyfwerth.
Tystiolaeth o ddatblygiadau proffesiynol parhaus perthnasol strategol ac o fewn y maes ADY.

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL
Profiad o ddatblygu strategaethau ysgol gyfan mewn meysydd allweddol megis addysgu a dysgu a/neu lles a chynhwysiad.
Profiad o sefydlu ac adeiladu partneriaethau gyda rhieni, y gymuned a gyda phartneriaid eraill.

DYMUNOL
Tystiolaeth o brofiad cyson a pherthnasol o arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol.
Tystiolaeth o weithio'n effeithiol gyda llywodraethwyr.
Profiad o adnabod gofynion penodol dysgwyr ADY yn eu gofal a chreu amgylchedd cefnogol a diogel lle gall y myfyrwyr ffynnu.

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL
Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau cyfoes mewn addysg yn lleol ac yn genedlaethol.
Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu o ansawdd, addysgu ac asesu yn y sector cynradd/uwchradd.
Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o brosesau gwella'r ysgol.
Meddu ar wybodaeth gadarn o strategaethau gweithredu sy'n sicrhau safonau uchel o ymddygiad a phresenoldeb.
Gallu paratoi strategaethau ar gyfer sicrhau cynhwysiad cymdeithasol, amrywiaeth a mynediad.
Meddu ar wybodaeth dda o rôl y corf llywodraethol ac yn gallu gweithredu strategaethau gwelliant parhaus ac atebolrwydd.
Meddu ar wybodaeth dda o'r cwricwlwm ehangach tu hwnt i'r ysgol a'r cyfleoedd ar gyfer disgyblion a chymuned yr ysgol.
Dangos brwdfrydedd personol at y defnydd o'r iaith Gymraeg yn yr ysgol.
Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau diweddaraf addysg yn genedlaethol.

DYMUNOL
Meddu ar wybodaeth dda o strategaethau gweithredu, darpariaethau a'r adnoddau gorau ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig.

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.

Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.

Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.

Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnoleg ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosibl cael cymorth i wirio'r iaith).

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod plant a phobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cefnogi a dirprwyo'r Pennaeth i ddarparu arweinyddiaeth a rheolaeth broffesiynol ar gyfer yr ysgol.
• Cefnogi'r Pennaeth i sicrhau gwelliant parhaus a llwyddiant i'r ysgol yn sgil cyfleoedd dysgu ac addysgu o safon uchel i'r holl ddisgyblion a safonau cyrhaeddiad uchel ym mhob agwedd o waith yr ysgol.
• Cefnogi'r Pennaeth i greu amgylchedd gynhwysol a theg sydd yn sicrhau llesiant a ffyniant pob disgbl.
• Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Staff, cyllid, offer ac adnoddau yr ysgol.

Prif Ddyletswyddau.
Amodau

Mae gofynion y swydd hon i'w cyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) ac o fewn amrediad dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno. Mae'r swydd hefyd yn darostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.

Rhaid i ddyletswyddau proffesiynol Dirprwy Bennaeth yr ysgol hon gael eu cyflawni yn unol â'r darpariaethau'r Deddfau Addysg, Gorchmynion a Rheoliadau sy'n weithredol dan y Deddfau Addysg, offeryn llywodraethu'r ysgol, unrhyw ddogfen ymddiriedolaeth sy'n berthnasol i'r ysgol ac unrhyw gynllun sy'n cael ei baratoi neu ei gynnal gan Yr Awdurdod Lleol dan Adran 48 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(87).

Rhaid cyflawni'r dyletswyddau yn unol ag unrhyw reolau, rheoliadau neu bolisïau a wnaethpwyd gan gorff llywodraethu'r ysgol ac y mae'r corff hwnnw yn gyfrifol amdanynt; ac yn yr un modd unrhyw reolau, rheoliadau neu bolisïau a wnaethpwyd gan Yr Awdurdod Lleol o ran materion nad yw'r corff llywodraethu yn gyfrifol amdanynt.

Gweithredu'r 'Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth'. Dylid hybu ac arwain nodweddion, gwerthoedd a dealltwriaeth broffesiynol, cynllunio gwaith yn hyderus gan osod targedau i'w monitro a'u hasesu wrth gynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel a hyderus.

Mae'r dyletswyddau hyn i'w cyflawni yn ôl cyfarwyddyd rhesymol y Pennaeth o bryd i'w gilydd fel y bo'n briodol. Mae'r Dirprwy Bennaeth yn atebol i'r Corff Llywodraethol a Phennaeth yr Ysgol. Disgwylir i'r Dirprwy Bennaeth fod yn gyfrifol am yr ysgol yn absenoldeb y Pennaeth.

Cyfrifoldebau Proffesiynol

Mae disgwyl i'r Dirprwy Bennaeth gyflawni'r dyletswyddau proffesiynol fel a ganlyn:

• Arwain ar drefniadaeth, a datblygiad ysgol gyfan trwy helpu i ddarparu arweinyddiaeth strategol gyffredinol a, gydag eraill, arwain, datblygu a chefnogi cyfeiriad strategol, gweledigaeth, gwerthoedd a blaenoriaethau'r ysgol. Mae angen datblygu, gweithredu a gwerthuso polisïau, arferion a gweithdrefnau'r ysgol yn rheolaidd yn unol â'r gofynion hyn.
• Arwain ar agweddau strategol o arwain a rheoli'r addysgu a'r dysgu ar draws yr ysgol gyfan gan sicrhau, ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig, bod athro'n cael ei neilltuo yn amserlen yr ysgol i bob dosbarth neu grŵp o ddisgyblion.
• Dangos arweiniad cadarn er mwyn creu'r amgylchedd sy'n galluogi athrawon fodloni'r 'Safonau Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.'Dylid hybu nodweddion, gwerthoedd a dealltwriaeth broffesiynol staff gan sicrhau fod ganddynt y sgiliau angenrheidiol er mwyn cynllunio gwaith yn hyderus gan osod targedau i'w monitro a'u hasesu wrth gynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel a hyderus.
• Cyfrannu at arwain, rheoli a datblygu'r gweithlu gan sicrhau ymglymiad i strategaethau arfarnu, rheoli perfformiad ac unrhyw ofynion datblygiad proffesiynol staff gydag ystyriaeth lawn o'r disgwyliad ynghylch cydbwysedd iach rhwng gwaith ac ymrwymiadau eraill pob aelod o staff.
• Helpu i hyrwyddo perthnasoedd gwaith cytøn yn yr ysgol a chynnal perthnasoedd gyda sefydliadau sy'n cynrychioli athrawon ac aelodau eraill o weithlu'r ysgol.
• Gweithio gyda'r Pennaeth i hyrwyddo diogelwch a lles disgyblion a staff a sicrhau trefn a disgyblaeth dda ymhlith disgyblion a staff.
• Cyfrannu gyda'r Pennaeth i sicrhau fod yr ysgol yn gwarchod gwerthoedd yr iaith Gymraeg ac yn dilyn Polisi Iaith yr Awdurdod.
• Trefnu a lleoli adnoddau yn yr ysgol, gan gynnwys staff, mewn modd sy'n addysgiadol effeithiol, yn hyrwyddo nodau a gwerthoedd yr ysgol ac yn cael eu targedu at wella safonau addysgol pob disgybl.
• Bod yn rhan o drafodaethau cyllidol sy'n sicrhau bod yr ysgol yn cynnig gwerth am yr arian cyhoeddus mae'n ei wario er mwyn cynnal a gwella ansawdd yr addysg a ddarperir ac er mwyn codi safonau cyflawniad y disgyblion sydd yn ein gofal.
• Cyfathrebu'n effeithiol gyda'r corff llywodraethu, staff, disgyblion, rhieni a gofalwyr gan sicrhau atebolrwydd llawn.
• Cymryd rhan mewn trefniadau i werthuso ac adolygu eich perfformiad eich hunan a pherfformiad athrawon eraill a staff cymorth a, phan fo hynny'n briodol, eu hyfforddiant a'u datblygiad proffesiynol, gan gynnwys gofynion ymsefydlu.
• Monitro, mewn cysylltiad ag unrhyw gais perthnasol, a yw athro yn yr ysgol yn bodloni'r safonau sy'n berthnasol i'w cyfnod gyrfa gyfredol.
• Cydweithio gyda chydweithwyr a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill yn yr ysgol a thu hwnt i'r ysgol, gan gynnwys cyrff ac asiantaethau allanol perthnasol.
• Addysgu'n effeithiol yn unol â Swydd Ddisgrifiad Athro/Athrawes.
• Arwain ar ddatblygu atebolrwydd ac arweinyddiaeth mewn ysgol.
• Ymroi i ddysgu proffesiynol parhaus.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r cyngor/ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.

Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Gweithio y tu allan i oriau gwaith arferol yn ôl y gofyn.

Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na'r lefel cyfrifoldeb.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi