MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2 (Arbennig) (Ysgol Eglwys yng Nghymru Y Trallwng)

Cyngor Sir Powys
Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2 (Arbennig) (Ysgol Eglwys yng Nghymru Y Trallwng)
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r llywodraethwyr yn awyddus i benodi dau Gynorthwyydd Dysgu hynod effeithiol, gofalgar a brwdfrydig i weithio ar sail 2:1 er mwyn cefnogi plentyn gydag anawsterau ymddygiadol, cyfathrebu, emosiynol a datblygiad cymdeithasol yn yr ysgol.

Bydd gan yr ymgeiswyr iawn brofiad o weithio gyda phlant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, a byddant yn barod i gyflawni hyfforddiant er mwyn ehangu eu gwybodaeth.

Rydym yn chwilio am Gynorthwywyr Dysgu sydd:

• â phrofiad o weithio ar sail 1:1 gyda phlant sydd ag anawsterau ymddygiadol, cyfathrebu, emosiynol a datblygiad cymdeithasol
• â phrofiad o weithio'n agos gydag Athro Dosbarth/CADY a gweithwyr proffesiynol eraill
• yn hyblyg, yn rhagweithiol ac ymarferol eu natur
• â gweledigaeth, egni a brwdfrydedd ar gyfer yr her hon, a sgiliau trefniadaethol a rhyngbersonol rhagorol
• yn brofiadol o ran sefydlu a chynnal perthnasau proffesiynol da

Byddem yn croesawu trafodaethau anffurfiol neu ymweliadau, trwy eu trefnu ymlaen llaw gyda'r Pennaeth Mrs Lorna Tuffin Rhif ffôn: 01938 538660