MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu lefel 1

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Gymunedol Alexandra

Bodhyfryd

Wrecsam

LL12 7AZ

Pennaeth: Mrs Lisa Roberts

Cymhorthydd Addysgu

27 awr yr wythnos, 5 diwrnod

Lefel 1 £ 14,131 - £14,365 y flwyddyn

Ei angen o 4 Rhagfyr 2023 neu cyn gynted â phosib wedi hynny. Dros dro tan 31 Mawrth 2024 i ddechrau gyda phosibilrwydd o gael ei ymestyn.

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi cymhorthydd addysgu hyblyg, brwdfrydig a llawn cymhelliant i weithio yn ein hysgol fendigedig.

Bydd yr aelod o staff a benodir yn gweithio fel rhan o dîm mawr, o fewn ein Darpariaethau Adnoddau Arbenigol, yn cefnogi plant sydd ag anghenion cymhleth ychwanegol. Byddai profiad o weithio gyda disgyblion ADY yn fanteisiol ond nid yn hanfodol.

I gael mwy o fanylion, cysylltwch â Lisa Roberts (Pennaeth) yn yr ysgol.

LLENWCH Y FFURFLEN GAIS A'I HANFON YN UNIONGYRCHOL AT BENNAETH YR YSGOL

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, tueddfryd rhywiol, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg

DYDDIAD CAU: 9am, dydd Gwener, 24 Tachwedd.