MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro Gwyddoniaeth

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

YSGOL CLYWEDOG

Ffordd Rhuthun

Wrecsam

LL13 7UB

Ffôn: 01978 346800

Pennaeth: Mr Alberto Otero

Athro Gwyddoniaeth

Parhaol

Prif Raddfa Gyflog/Uwch Raddfa Gyflog

Dyddiad dechrau: Pasg 2024 (Ionawr 2024 os yn bosibl)

Rydym yn chwilio am Athro/Athrawes Gwyddoniaeth sy'n llawn egni, cymhelliant ac ysbrydoliaeth i ymuno â'n hysgol fywiog.

- A oes gennych chi'r arbenigedd i gyfrannu at ein hysgol sy'n gwella'n gyson?

- A oes gennych ymdeimlad clir o bwrpas a'r dyhead i gyrraedd y safonau uchaf posib?

- A ydych chi'n frwd am eich pwnc ac yn awyddus i gefnogi myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial?

Os felly, hoffem glywed gennych chi a byddwch chi'n elwa o:

- Ymuno â thîm proffesiynol gwerthfawr.

- Derbyn cyfleoedd datblygu proffesiynol rhagorol.

- Bod yn rhan o ysgol uchelgeisiol.

- Defnydd o dechnolegau newydd.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dychwelwch ffurflenni cais wedi eu llenwi at Mrs Wendy Evans, Rheolwr Busnes, Ysgol Clywedog, Ffordd Rhuthun, Wrecsam, neu eu hanfon dros e-bost at vacancies@clywedog.org.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Dyddiad Cau: 9.00 am Dydd Llun 4 Rhagfyr 2023

Dyddiad Cyfweld: tua 4 Rhagfyr 2023