MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro Gwyddoniaeth (Ysgol Uwchradd Llanidloes)

Cyngor Sir Powys
Athro Gwyddoniaeth (Ysgol Uwchradd Llanidloes)
Swydd-ddisgrifiad
Mae Ysgol Uwchradd Llanidloes yn un o'r ysgolion hapusaf, mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Rydym wedi cael ein bendithio â diwylliant dysgu bywiog a llewyrchus, ethos hynod ofalgar a thîm o staff sy'n wirioneddol ymroddedig. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol gyffrous i athro Gwyddoniaeth ysbrydoledig ymuno ag ysgol categori gwyrdd ragorol a leolir yng nghanolbarth hardd, gwledig Cymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
  • gofalu'n ddwys am les a llwyddiant academaidd ein holl ddisgyblion;
  • gallu addysgu Gwyddoniaeth hyd at, ac yn cynnwys lefel A yn effeithiol;
  • bod yn llawn cymhelliant, gan ysbrydoli cariad at ddysgu a sicrhau bod pob disgybl yn cyflawni'r safonau academaidd uchaf posibl;
  • bod yn ddeinamig yn y dosbarth a chynnal safonau uchel iawn o ran addysgu a dysgu;
  • meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol, bod yn chwaraewr tîm gwirioneddol a bod yn fedrus wrth weithio'n annibynnol;
  • meddu ar sgiliau trefnu rhagorol ac agwedd gydwybodol tuag at y gwaith;
  • cyfrannu'n llawn at ddarparu cyfleoedd allgyrsiol;
  • meddu ar agwedd 'gallu gwneud' at ddatrys problemau.

Byddai'r gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a chynnig ail bwnc yn ddymunol. Mae croeso i ANG ymgeisio.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Sul y 26ain o Dachwedd 2023. Bydd llunio'r rhestr fer yn digwydd ar Ddydd Mawrth yr 28ain o Dachwedd 2023 a chynhelir cyfweliadau ar y 1af o Ragfyr 2023.

Mae croeso i chi gysylltu â Mrs Susan Bound, Rheolwr Busnes, am ragor o wybodaeth.

S.Bound@llanidloes-hs.powys.sch.uk

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS