MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Rheolwr Bugeiliol

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Rheolwr Bugeiliol

Swydd Lawn Amser

Gorwelion Newydd

Graddfa: G08

£32,076 to £34,834 pro rata

Rydym ni'n bortffolio Uned Atgyfeirio Disgyblion ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, sy'n rhoi addysg i bobl ifanc o oed ysgol uwchradd sydd ddim yn gallu mynychu ysgol brif ffrwd. Rydym yn gweithredu o dri safle, sef Stiwdio Pen-y-Cae, Stiwdio Hafod a Haulfan, sy'n arbenigo mewn cefnogi disgyblion unigol â'u hanghenion ymddygiad ac iechyd meddwl.

Rydym yn angerddol ynglŷn â rhoi cyfleoedd gwych i ddisgyblion fagu hunanhyder a hunan-barch er mwyn iddynt allu ail-ymgysylltu'n llwyddiannus â dysgu. Mae gennym ddyheadau uchel ar gyfer ein holl ddisgyblion, beth bynnag fo'r amgylchiadau heriol y maent yn eu hwynebu. Rydym ni'n falch iawn o fod yn rhan o gymuned Wrecsam.

Rydym yn dymuno recriwtio Rheolwr Bugeiliol i ymuno â safle Stiwdio Pen-y-Cae sy'n darparu addysg i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 4 mewn perygl o gael eu gwahardd. Prif ffocws y rôl fydd cefnogi presenoldeb disgyblion, lles a diogelu a chefnogi pontio'n llwyddiannus.

Mae ein tîm o staff yn egnïol, yn arloesol ac yn canolbwyntio ar atebion. Byddwch yn derbyn lefel ardderchog o gefnogaeth gan gydweithwyr a'r uwch dîm arweinyddiaeth. Mae gennym eisoes ddau Reolwr Bugeiliol hynod brofiadol a dynamig a fydd yn darparu cefnogaeth uniongyrchol i gyfoedion a mentora yn eich rôl newydd.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi eu cwblhau i'r Pennaeth yn yr Ysgol.

Gorwelion Newydd

Stiwdio Pen-y-Cae

Ffordd Afoneitha

Pen-y-cae

Wrecsam

LL14 2PF

mailbox@prs.wrexham.sch.uk

Darren Lee

01978 423266

Darren.lee@wrexham.gov.uk