MANYLION
- Lleoliad: Wrexham,
- Testun:
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Salary Range: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 08 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b
Athro/Athrawes adnoddau i weithio gyda BIPBC i gefnogi anghenion plant a phobl ifanc niwro-amrywiol. Secondiad neu gontract tymor byr
Cyngor Wrecsam
Disgrifiad
Athro/Athrawes adnoddau i weithio gyda BIPBC i gefnogi anghenion plant a phobl ifanc niwro-amrywiol. Secondiad neu gontract tymor byr
Band cyflog: Graddfa gyflog athrawon hyd at TLR3 a Lwfans ADY 1
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant a phobl ifanc? A hoffech chi helpu i siapio tirlun gynhwysol sy'n cefnogi anghenion holistaidd plant a phobl ifanc niwro-amrywiol?
Os felly, efallai y dylech ymuno â'n Gwasanaeth Cynhwysiant ac ADY dynamig. Mae'r Awdurdod Lleol, gan weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn awyddus i benodi neu secondio gweithiwr proffesiynol i beilota a gwerthuso dulliau gweithio cydweithredol newydd ar draws y sectorau Iechyd ac Addysg.
Bydd y swydd hon yn cynnwys gweithio'n agos â'r tîm Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, ymrwymiad i ddysgu a'r gallu i ymchwilio, dadansoddi data a darparu adroddiadau ysgrifenedig ac ar lafar effeithiol i arweinwyr Addysg ac Iechyd.
Fel aelod o wasanaeth amlddisgyblaeth ac amlasiantaeth, bydd deiliad y swydd yn gwneud cyfraniad pwysig at lunio'r polisïau a'r gweithdrefnau sydd eu hangen i annog newid.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus arbenigedd helaeth o weithio yn y sector ADY. Tystiolaeth o arfer gorau o ran dysgu yn y maes hwn, dymuniad i gydweithio mewn tîm amlddisgyblaeth, y gallu i flaenoriaethu amser a chynhyrchu adroddiadau ysgrifenedig ar lefel ôl-raddedig.
Ariannir y swydd hon gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Daw'r cyllid i ben ym mis Mawrth 2025.
Os bydd arnoch chi angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Lisa Duncalf ar lisaduncalf@wrexham.org.uk
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg