MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes - Blwyddyn 3/ 4

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Hafod Y Wern

Ffordd Deva

Wrecsam

LL13 9HD

Ffôn: 01978 367080

Pennaeth: Mr S.P Edwards

Ebost: mailbox@hafodywern-pri.wrexham.sch.uk

Athro/Athrawes Ddosbarth

Cyfnod Allweddol 2 - Blwyddyn 3/4

Rhan amser 0.4 - Dydd Llun a Dydd Mawrth bob wythnos

I ddechrau Ionawr 2024

Mae corff llywodraethu Ysgol Gynradd Gymunedol Hafod y Wern yn dymuno penodi athro/athrawes ddosbarth ysbrydoledig i weithio yng Nghyfnod Allweddol 2 - dosbarth Blwyddyn 3/4. Mae'r swydd yn un 0.4, gan weithio Dydd Llun a Dydd Mawrth bob wythnos. Rydym yn chwilio am athro/athrawes ddosbarth ragorol, dymunol ac arloesol a all sefydlu perthnasoedd yn gyflym.

Rydym yn chwilio am athro dosbarth sydd: -

• Yn athro/athrawes ddosbarth wych sy'n gadarnhaol ac yn angerddol ynglŷn ag addysgu

• Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol gydag agwedd flaengar

• Yn gallu gweithio'n gadarnhaol gydag aelodau o staff i sicrhau'r canlyniadau gorau i'n disgyblion

• Mae croeso i athrawon sydd newydd gymhwyso ymgeisio

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus a gaiff eu cynnwys ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i ymweld â'r ysgol.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pebai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:

Headteacher@hafodywern-pri.wrexham.sch.uk

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: Hanner dydd, dydd Mercher 22 Tachwedd 2023