MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Rheolwr Rhwydwaith

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Morgan Llwyd

Pennaeth: Miss Catrin Pritchard

Rheolwr Rhwydwaith

Gradd 06 £24,496 - £25,878

Ystod yr tymor yn unig a 3 wythnos, 42 wythnos.

37 awr yr wythnos

Swydd Barhaol

Mae Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd yn dymuno penodi Rheolwr Rhydwaith i weithio yn yr ysgol hapus a llwyddiannus hon.

Mae'r Corff Llywodraethol yn frwd dros addysg ac yn awyddus i barhau ar ein taith o welliant. Rydym yn chwilio am berson gweithredol a brwdfrydig sy'n rhannu'r weledigaeth:

Ysgol ofalgar sydd yn datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, mewn awyrgylch ble mae pawb yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg ar gyfer y swydd hon yn ddymunol ond ddim yn hanfodol.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda Miss Rhian Owen.

I wneud cais lawrlwythwch y ffurflen gais os gwelwch yn dda a'i ddychwelyd at Miss Rhian Owen, Rheolwr Busnes, drwy e-bost owenr350@hwbcymru.net

Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Dyddiad cau 8fed o Rhagfyr 2023.