MANYLION
  • Lleoliad: Llanisien, Cardiff, CF14 5GF
  • Testun: Tiwtor
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £24,477 - £27,401
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Ionawr, 2022 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Tiwtor / Asesydd Cynllun Prentisiaeth yr Urdd

Tiwtor / Asesydd Cynllun Prentisiaeth yr Urdd

Urdd Gobaith Cymru
Teitl y Swydd: Tiwtor / Asesydd Cynllun Prentisiaeth yr Urdd
Math o gontract: Parhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Graddfa 4 : £24,477 (Pwynt 1) - £27,401 (Pwynt 4)
Lleoliad: De Cymru


Amdanom ni

Mae’r Urdd yn fudiad sy’n parhau i dyfu ac arloesi, ac yn un o’r cyflogwyr mwyaf sy’n gweithredu trwy'r Gymraeg. Fe sefydlwyd yn 1922, ac erbyn heddiw cyflogir dros 300 o staff, bron 55,000 o aelodau, 10,000 o wirfoddolwyr a throsiant o £10m. Byddwn yn dathlu ein pen-blwydd yn 100 yn 2022 gan weithio gydag ein haelodau a’n gwirfoddolwyr ynghyd ac amryw o bartneriaid sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, S4C, BBC, Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Stonewall Cymru, Chwaraeon Cymru, Ysgolion a Cholegau Cymru.

Y Swydd

(Mae Cynllun Prentisiaethau’r Urdd yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymuno ar Adran Prentisiaethau fel Asesydd/Tiwtor Chwaraeon.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Catrin Davis (Pennaeth Prentisiaethau) catrindavis@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org

Dyddiad Cau – 10.01.2022
Dyddiad Cyfweld – i'w gadarnhau