MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF240AB
  • Testun: Swyddog Cofrestru
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Hydref, 2023 9:59 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Cofrestru

Cyngor y Gweithlu Addysg
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.

Fel rhan o’r tîm Cymwysterau a Chofrestru, bydd y Swyddog Cofrestru yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni gwaith Cofrestru’r CGA. Bydd hyn yncynnwys cynnal Cofrestr yr Ymarferwyr Addysg, darparu gwasanaeth ymholi dwyieithog proffesiynol a chyfleusterau desg gymorth i ymarferwyr a chyflogwyr, gan weinyddu gwobrwyo Statws Athro Cymwysedig a datblygu a pharatoi adroddiadau ac ystadegau.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol, gyda phrofiad o drin ymholiadau amrywiol. Byddant hefyd yn siaradwr Cymraeg rhugl a’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.

Mae buddion i gyflogeion yn cynnwys mynediad i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, oriau hyblyg a 31 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â 10 gŵyl banc a diwrnod braint).

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 10yb ar 7 Awst 2023.

E-bostiwch recriwtio@cga.cymru i gael rhagor o wybodaeth, neu i lawrlwytho pecyn cais, ewch i: https://www.cga.cymru/recriwtio