MANYLION
  • Testun: Athro
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro Dosbarth (Ysgol Neuadd Brynllywarch)

Cyngor Sir Powys
Athro Dosbarth (Ysgol Neuadd Brynllywarch)
Swydd-ddisgrifiad
Ysgol Arbennig yw Ysgol Neuadd Brynllywarch ar gyfer plant 7-19 oed gydag Anawsterau Emosiynol, Ymddygiadol a Chymdeithasol (EBSD)

Rydym yn chwilio am athro sydd:
  • yn ymarferydd rhagorol yn yr ystafell ddosbarth, sy'n gyfarwydd gyda'r cwricwlwm newydd ac yn gallu gwahaniaethu ar gyfer ystod o anghenion. Hwyrach y bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddysgu mewn cyfnodau allweddol eraill, yn dibynnu ar gryfderau o safbwynt y cwricwlwm.
  • â disgwyliadau uchel o ran addysgu ac ymddygiad, a sgiliau cadarn mewn perthynas â rheoli'r ystafell ddosbarth.
  • yn "chwaraewr" tîm ymroddedig.
  • yn frwdfrydig am wneud gwahaniaeth i'r plentyn "cyfan" trwy ddatblygu cysylltiadau personol cadarnhaol.
  • yn fodlon dangos ymrwymiad i fywyd ehangach yr ysgol a gweithgareddau allgyrsiol.

O'n safbwynt ni, gallwn gynnig:
  • Tîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr
  • Disgyblion cyfeillgar a brwdfrydig
  • Partneriaeth gadarn gyda rhanddeiliaid

Rydym yn croesawu ac yn annog ymgeiswyr i ymweld â'r ysgol - gofynnir ichi gysylltu â:

Mrs Gwyneth Down,

CP y Pennaeth ar 01686 670276 i drefnu ymweliad.