MANYLION
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Cegin Cyffredinol Lefel 2 (Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt)

Cyngor Sir Powys
Cynorthwyydd Cegin Cyffredinol Lefel 2 (Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt)
Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:

Cynorthwyo'r Cogydd Cyfrifol gyda dyletswyddau cyffredin yn y gegin o ran paratoi, coginio, cludo a gweini bwyd a diodydd yn unol â Safonau Gwasanaethau Arlwyo Powys. Cydymffurfio â safonau maeth yn unol â Mesur Ysgolion Iach Cymru 2013. Cefnogi a hyrwyddo'r Gwasanaeth Arlwyo a'i nodau ac amcanion yn ddyddiol.

Amdanoch chi:
  • Mae sgiliau darllen ac ysgrifenu'n hanfodol
  • Gallu cofnodi data'n gywir gyda llaw ac yn electronig
  • Trwydded yrru ac yn gallu gyrru fan
  • Sgiliau TG
  • Gallu cydymffurfio â lefelau cyfrinachedd ar bob lefel
  • Gallu dangos tasgau gwaith i staff
  • Gallu ymdopi â gofynion corfforol y swydd
  • Gallu ymateb i gyfnodau prysur o ran llwyth gwaith, bodloni terfynau amser a chyflenwi'r gwasanaeth sydd ei angen
Eich dyletswyddau:
  • Cydymffurfio â Deddf Diogelwch Bwyd bob amser a Pholisïau a Gweithdrefnau Gwasanaethau Arlwyo Powys gan gynnwys y Polisi Hylendid a Golchi Dwylo. Sicrhau safonau da o ran arferion gweithio diogel bob amser.
  • Cynorthwyo gyda rheoli stoc, storio nwyddau, paratoi, coginio, cludo a gweini prydau ar ac oddi ar y safle, yn unol â gofynion y gwasanaeth.
  • Cynorthwyo gyda pharatoi'r man bwyta ar gyfer gwasanaeth, gan gynnwys gosod a chlirio byrddau a chadeiriau ar gyfer prydau bwyd, a chlirio a glanhau wedyn. Trefnu'r man gweini yn barod ar gyfer gwasanaeth
  • Cynorthwyo i weini prydau bwyd sy'n cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru o ran maeth a gwerth, gan reoli maint dognau, gan gynnwys dietau arbennig.
  • Cadw cofnodion cywir, yn ôl yr angen - rhai â llaw ac electronig.
  • Golchi llestri, cyllyll a ffyrc ac ati ac offer y gegin ac unrhyw offer ysgafn cysylltiedig arall fel bo angen. Cynorthwyo i gadw cegin lân trwy lanhau'r holl offer yn rheolaidd, mannau cadw biniau, storfeydd ac ardaloedd atodol, a glanhau'n ddyddiol yn unol ag amserlen glanhau'r gegin.


  • Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y swydd, croeso ichi gysylltu â Rheolwr Arlwyo'r Ardal, Joanne Tomlins ar 01597 827166

    Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Sir Powys dâl atodol Cyflog Byw yn ôl disgresiwn i weithwyr sy'n ennill llai na £10.90 yr awr.