MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Cymorth
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Gweinyddiaeth a Threfiadaeth

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Clywedog

Ffordd Rhuthun

Wrecsam

LL13 7UD

01978 346800

Pennaeth: Mr Alberto Otero

CYMHORTHYDD GWEINYDDOL - - Bugeiliol

37 awr yr wythnos,

Lefel 2 Gradd 04 - £21,189 - £21,575 y flwyddyn

Dyddiad dechrau: Cyn gynted ag y bo modd

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG

Rydym yn chwilio am unigolyn ymroddgar a brwdfrydig a allai ddarparu cefnogaeth weinyddol i'n hadran Cymorth Bugeiliol.

Oes gennych chi'r arbenigedd i gyfrannu at ein hysgol sy'n gwella'n gyson?

Oes gennych chi ymdeimlad clir o bwrpas a'r dyhead i gyrraedd y safonau uchaf posib?

Oes gennych frwdfrydedd tuag at addysg a'r dewisiadau bywyd mae ysgol dda yn eu cynnig i bobl ifanc?

Os felly, hoffem glywed gennych chi a byddwch chi'n elwa o:

Ymuno â thîm proffesiynol gwerthfawr

Derbyn cyfleoedd datblygu proffesiynol rhagorol

Bod yn rhan o ysgol uchelgeisiol

Defnydd o dechnolegau newydd

Mae manylion pellach am y swydd, y ffurflen gais a'r swydd-ddisgrifiad ar gael ar wefan yr ysgol www.clywedog.org

Dychwelwch ffurflenni cais wedi eu llenwi at Mrs Wendy Evans, Rheolwr Busnes, Ysgol Clywedog, Ffordd Rhuthun, Wrecsam, neu eu hanfon dros e-bost at vacancies@clywedog.org.

DYDDIAD CAU: Hydref 4ydd 2023

CYFWELIADAU: wythnos yn dechrau Hydref 9fed 2023

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Mae'r swydd yn destun gwiriad Datgeliad a Gwasanaeth Gwahardd gwell

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.