MANYLION
  • Lleoliad: Various,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Arbenigol Blynyddoedd Cynnar

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD

Ardal - Môn

Dyddiad Cychwyn: 1 Ionawr 2024

Athro / Athrawes Arbenigol yn y Blynyddoedd Cynnar

Swydd Dros dro am flwyddyn hyd at 31/12/2024 yn y lle cyntaf. Ystyrir Secondiad

Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol. Mi fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion Blynyddoedd Cynnar o fewn Môn

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£29,278 - £45,085) y flwyddyn ynghyd a lwfans anghenion addysgol arbennig (£2,461 - £4,855) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol i'r swydd. Mae'r adran yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gellir cael manylion pellach a/neu sgwrs anffurfiol am y swydd drwy gysylltu gyda Ellen Mai Jones, Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnarar rif ffôn 07342704876.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn yr Uned.

DYDDIAD CAU: 10.00 O'R GLOCH, DYDD GWENER, 13 HYDREF, 2023.

(This is an advertisement for a Temporary Early Years Specialist Teacher, for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.)

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.

• Sicrhau bod plant a phobl Gwynedd Mon yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Sicrhau gwasanaeth arbenigol o safon uchel ar gyfer Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar i gefnogi plant sydd ag ADY.
• Sicrhau gweithrediad yn y maes Blynyddoedd Cynnar drwy'r defnydd o weithdrefnau a phrosesau effeithiol ar sail tystiolaeth.
• Byddent yn cyflawni hyn drwy:
Dysgu a gweithredu strategaethau cytunedig o fewn y Gwasanaeth
Dreulio cyfnodau yn y lleoliadau yn arsylwi, modelu a monitro
Cyd weithio gyda tim bach o Gymorthyddion Arbenigol a Chymorthyddion o fewn y
y lleoliadau blynyddoedd cynnar
Cefnogi lleoliadau Blynyddoedd Cynnar ar ffurf hyfforddiant ac Adnoddau parod
• Gweithredu yn unol a chanllawiau Diogelu cadarn

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer

• Cyd weithio efo'r Swyddog Arweiniol y Blynyddoedd Cynnar i gynnal hyfforddiant a chreu adnoddau ar gyfer lleoliadau blynyddoedd cynnar a rhieni
• Cynorthwyo'r Swyddog Arweiniol y Blynyddoedd Cynnar wrth gyd weithio efo'r cymorthyddion arbenigol
• Cyd weithio gyda tîm o Gymorthyddion Arbenigol a chymorthyddion
• Cyd weithio efo'r Swyddog Arweiniol y Blynyddoedd Cynnar)i gynllunio llyfrgell o adnoddau gwahaniaethol
• Gliniadur a ffôn symudol

2 Prif Ddyletswyddau.

Mae'r swydd ddisgrifiad hwn i'w gyflawni yn unol a darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amred dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y dogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae'r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.

• Ymgymryd a'r rôl 'Cydlynydd dynodedig' i gydlynu achosion a gweithredu'n unol â'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol
• Sicrhau gwasanaeth cefnogi a chynghori ar gyfer lleoliadau blynyddoedd cynnar drwy ddarparu arweiniad a chefnogaeth o ansawdd uchel.
• Cyfrannu at gynlluniau strategol lleoliadau blynyddoedd cynnar ym maes Blynyddoedd Cynnar, ac ADY yn gyffredinol.
• Cyflenwi gwaith proffesiynol drwy gymryd weithredu strategaethau a gweithgareddau dysgu ar gyfer disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol;.
• Cyfrannu at fonitro cynnydd disgyblion drwy asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau.
• Cydweithio gyda lleoliadau blynyddoedd cynnar ar gyfer datblygu'r awyrgylch cyfathrebu gyfeillgar o fewn y lleoliad
• Cyfrannu at drafodaeth a phenderfyniadau'r Panel/Fforwm Blynyddoedd Cynnar.
• Cyfrifoldeb am hunan reoli llwyth gwaith a blaenoriaethu achosion
• Gweithredu ac addasu pecynnau gwaith penodol, i sicrhau adnoddau arbenigol ar gyfer l lleoliadau blynyddoedd cynnar a rhieni yn y maes anghenion Blynyddoedd Cynnar.
• Cyfrannu at ddatblygu rhaglen hyfforddiant penodol arbenigol i gynorthwyo lleoliadau blynyddoedd cynnar a rhieni i gael gwell dealltwriaeth o ADY yn y maes Blynyddoedd Cynnar.
• Cyd weithio'n agos â'r Uwch Seicolegydd Addysgol Blynyddoedd Cynnar i weithredu strategaethau cytunedig ar lefel lleoliadau blynyddoedd cynnar. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghori ynglŷn â'r llwyth gwaith, gweithredu rhaglenni hyfforddiant, strategaethau ar gyfer lleoliadau blynyddoedd cynnar
• Ymgynghori yn rheolaidd gyda'r Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar er mwyn sicrhau fod gwybdoaeth gyfredol ynglyn a chynnydd y plant, ac anghenion yr Ardal o ran Ansawdd y ddarpariaeth yn cael ei gyfathrebu.
• Sicrhau arweiniad gweithredol clir i staff lleoliadau blynyddoedd cynnar Cyd weithio gyda'r holl dîm Integredig o fewn y Gwasanaeth ADYaCh.
• Cyfrannu i HMS a datblygiadau staff o fewn y gwasanaeth ac o fewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.
• Paratoi adroddiadau ar gynnydd yn erbyn meini prawf cytunedig.
• Sicrhau fod y Meini Prawf yn wybyddus i bawb ac yn cael eu gweithredu'n gyson yn ein lleoliadau blynyddoedd cynnar
• Sicrhau fod y bas data o'r disgyblion sydd yn derbyn cefnogaeth y Gwasanaeth yn gyfredol.
• Sicrhau gweithrediad yn unol ag argymhellion y Panel/Fforwm Blynyddoedd Cynnar.
• Cymryd rhan, yn ôl yr angen, mewn prosesau sy'n adolygu, monitro a datblygu'r Gwasanaeth ADYach yn y Blynyddoedd Cynnar
Cyffredinol
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Ymateb i unrhyw gais rhesymol arall ar gais y Pennaeth Gwasanaeth Addysg.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin

Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• AA•

Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na'r lefel cyfrifoldeb.