MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Pennaeth (Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Llandysilio)

Cyngor Sir Powys
Pennaeth (Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Llandysilio)
Swydd-ddisgrifiad
Mae aelodau Corff Llywodraethu Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llandysilio yn gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr sydd yn ymroddedig, brwdfrydig, cryf eu cymhelliad ac yn flaengar. Bydd rhaid i ymgeiswyr rannu ethos Cristnogol a disgwyliadau uchel yr ysgol o ran cyrhaeddiad ac ymddygiad disgyblion, ac arwain ein hysgol lwyddiannus ymlaen i'r cam datblygu nesaf.

Mae'r llywodraethwyr am benodi arweinydd ac athro effeithiol sydd yn:

  • dangos rhinweddau arwain a rheoli cryf tra'n gweithio fel rhan o dîm a sy'n arweinydd effeithiol
  • arddangos arfer dosbarth rhagorol a sy'n meddu ar y gallu i ysbrydoli a galluogi'r holl ysgol i lwyddo
  • meddu ar weledigaeth glir i ddatblygu'r ysgol ymhellach, i gyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru, a'r sgiliau a'r penderfyniad i gyflawni'r weledigaeth honno gyda chymorth staff, rhieni a llywodraethwyr
  • meddu ar disgwyliadau uchel o ran cyflawniad ac ymddygiad disgyblion
  • arddangos medrau datrys problemau, cynllunio strategol a rheolaeth cyllid
  • arwain ac yn cymell disgyblion, staff a'r gymuned ehangach i greu diwylliant effeithiol a chynhwysol o ddysgu gydol oes
  • credu mewn manteision partneriaeth agos rhwng yr ysgol, yr Eglwys a'r gymuned ehangach
  • gallu cydweithio yn effeithiol gyda rhwydweithiau clwstwr, rhanbarthol a chenedlaethol
  • angerddol am addysgu a dysgu ac yn dangos ymrwymiad llwyr i'r plant a'r staff
  • gallu dangos gwytnwch ac optimistiaeth wrth wynebu heriau posibl a pharhau i yrru'r ysgol yn ei blaen
    • ofalgar, yn gefnogol ac yn medru hyrwyddo gwaith tîm effeithiol o fewn tîm bach

Gall yr ysgol gynnig i'r ymgeisydd cywir:

  • gymuned gynhwysol a chroesawgar lle mae oedolion a disgyblion yn dangos lefel uchel o garedigrwydd a pharch at ei gilydd
  • tîm o staff a chorff llywodraethol ymroddedig a chefnogol iawn, sydd yn mwynhau gweithio gyda'i gilydd er budd dyfodol eu disgyblion ac ysgol
  • plant hapus, brwdfrydig sy'n awyddus i ddysgu ac yn mwynhau cael eu gwerthfawrogi fel unigolion
  • eglwys leol, esgobaeth a chymuned gefnogol
  • perthnasau cryf gyda rhanddeiliaid, yn cynnwys cymdeithas Cyfeillion yr Ysgol weithredol
  • ymrwymiad i'ch datblygiad proffesiynol a'ch lles personol.

Lleolir Ysgol Llandysilio ym mhentref Llandysilio ar y ffin rhwng Powys a Sir Amwythig, yn hawdd i'w chyrraedd o'r Trallwng, Croesoswallt ac Amwythig. Mae'r ysgol o fewn clwstwr ysgolion Y Trallwng. Ceir 57 o ddisgyblion ar hyn o bryd, mewn tri dosbarth, a gyda chlwb brecwast gweithgar. Mae gan yr ysgol berthynas dda gydag Eglwys Sant Tysilio, Esgobaeth Llanelwy a'r gymuned leol.

Rydym yn agored i syniadau newydd a chreadigol ac yn credu ein bod yn darparu amgylchfyd hapus, gofalgar a chreadigol ble y gall pob plentyn lwyddo.

Estynnwn groeso cynnes i chi ymweld â'n hysgol - os gwelwch yn dda, cysylltwch â Chlerc y Corff Llywodraethol, Mrs Jill Austin, ar 01691 830339 neu ebostiwch: austinj6@hwbcymru.net er mwyn trefnu.

Gan ein bod yn ysgol wirfoddol a reolir, byddwn yn rhoi ystyriaeth arbennig i'ch parodrwydd a'ch gallu i hybu a chadw perthynas gref a thîm yr Esgobaeth, ac i ategu ethos Cristnogol a gwerthoedd craidd ysgol eglwys.