MANYLION
- Lleoliad: Ysgol Godre'r Berwyn, Bala,
- Testun: technegydd
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Manylion
Hysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION DILYNOL
YSGOL GODRE'R BERWYN
(Cyfun 3 - 18: 577 o ddisgyblion)
Yn eisiau: Cyn gynted â phosib
TECHNEGYDD TG (RHAN AMSER)
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.
Oriau gwaith: 15 awr yr wythnos
(40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant â bod ar gael i weithio cyfwerth a'ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i'ch oriau arferol).
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3 pwyntiau 5 - 6 (£7,723 - £7,864 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Bethan Emyr Jones.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Iwan Jones, Arweinydd Busnes a Chyllid, Ysgol Godre'r Berwyn, Heol Ffrydan, Y Bala, Gwynedd, LL23 7RU (Rhif Ffôn: 01678 520259) e-bost: iwan.jones @godrerberwyn.ysgoliongwynedd.cymru .Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD GWENER, 29 MEDI, 2023.
(This is an advertisement for the post of a part-time IT Technician at Ysgol Godre'r Berwyn, Bala for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.
Manylion Person
TECHNEGYDD
YSGOL GODRE'R BERWYN
SWYDD DDISGRIFIAD TECHNEGYDD
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS5, y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.
Pwyntiau Cyflog: 5 - 6
Cyflog:
Oriau Gwaith: 15 awr yr wythnos, 40 wythnos y flwyddyn (sef 39 wythnos tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant mewn Swydd yn ogystal â bod ar gael i weithio wythnos ychwanegol yn ystod y gwyliau).
Pwrpas y Swydd
Pwrpas y swydd hon yn bennaf yw cwblhau nifer o dasgau ymarferol dydd i dydd a fydd yn sicrhau bod offer ac adnoddau Thechnoleg Gwybodaeth yn cyfrannu tuag at brofiadau dysgu cyfoethog disgyblion yr ysgol.
1 Cyffredinol
1.1 Rheoli a gweinyddu rhwydweithiau cyfrifiadurol cwricwlaidd yr ysgol mewn ymgynghoriad a'r UDRh.
1.2 Cynghori'r UDR a'r Cyd-gysylltydd TGCh ar ddatblygiad TGCh yn yr ysgol.
1.3 Rheoli amser ei hun gan flaenoriaethu tasgau yn briodol.
1.4 Cefnogaeth a chymorth arbenigol TGCh i staff a disgyblion yn ôl y galw.
1.5 Cynnal a chadw'r adnoddau a deunyddiau
1.6 Bod yn gyfrifol am baratoi / estyn a chadw offer yn ddyddiol
1.7 Cyd-weithio'n effeithiol â holl staff yr ysgol.
1.8 Gweithredu Polisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol gan fod yn gyson ymwybodol o agweddau iechyd a diogelwch
2 Diogelwch
2.1 Gweinyddu rheolau a hawliau mynediad i'r Wê, gan sicrhau defnydd saff o'r Wê.
2.2 Tynnu sylw at beryglon neu ddiffyg gofal.
Penodol
3.1 Gofalu am yr holl stoc, gan sicrhau bod rhestr gyfredol yn cael ei chadw, a hysbysu'r Arweinydd Maes pan fod angen archebu deunyddiau.
3.2 Archebu offer yn ôl yr angen mewn cydweithrediad a staff eraill.
3.3 Ymateb i geisiadau rhesymol byr rybudd yn ystod y dydd am offer / cymorth
3.4 Mynychu cyrsiau i sicrhâi bod gwybodaeth am yr arferion diweddaraf yn gyfredol.
3.5 Arsefydlu meddalwedd a diffinio trwydded eiriau.
3.6 Cynnal a chadw holl offer TGCh yr ysgol.
3.7 Cynnal a chadw holl offer TGCh arall yn cynnwys Byrddau Gwyn Rhyngweithiol, offer fideo gynadledda a thaflunyddion.
3.8 Cynorthwyo staff addysgu i ddatrys problemau ynglŷn â defnyddio'r offer uchod.
3.9 Casglu, glanhau a chadw offer a defnyddiau ar gyfer y gwersi.
3.10 Gweinyddu system catalogio a labelu offer, peiriannau a defnyddiau TGCh.
Gweinyddol
4.1 Gwaith clercio, archebu a chadw stoc.
4.2 Cadw trefn ar yr offer/adnoddau technegol a'r adnoddau addysgiadol.
5 Materion Cyffredinol Eraill
5.1 Datblygu a chynnal system bost electroneg yr ysgol.
5.2 Cymorth technegol TGCh yn dilyn ymgynghoriad gyda'r Cyd-gysylltydd TGCh.
5.3 Mynychu cyrsiau i sicrhâi bod gwybodaeth am yr arferion diweddaraf yn gyfredol.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd hon yn bennaf yw cwblhau nifer o dasgau gweinyddol yn effeithiola chynnig gwasanaeth gweinyddol i Dim Rheoli'r Ysgol ac i raddau llai'r staff dysgu. Mae'r dyletswyddau yn amrywiol a hefyd yn amrywio o ddiwrnod i ddiwrnod
GOFYNION ANGENRHEIDIOL AR GYFER Y SWYDD
CYMWYSTERAU /HYFFORDDIANT GALWEDIGAETHOL/CYMWYSEDDAU
• Cyfwerth a NVQ3 mewn Technoleg Gwybodaeth
• Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol a phersonol parhaus.
• Sgiliau ieithyddol a chyflwyno gwybodaeth a chyfathrebu da.
GWYBODAETH A SGILIAU
• Sgiliau gofal cwsmer ardderchog.
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar, wrth drin pobl, ac ar bapur, a pharchu'r angen i fod yn gyfrinachol.
• Gallu i ddefnyddio cyfrifiadur i lefel uchel.
• Sgiliau trefnu a blaenoriaethu.
• Meddu ar sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifennedig cadarn yn y Gymraeg a'r Saesneg.
PROFIAD
• Profiad o fod yn cywirio offer technoleg gwybodaeth.
• Profiad o weinyddu SERVER ar gyfer nifer sylweddol ac amrywiol o offer TGCh
•
NODWEDDION A GWERTHOEDD PERSONOL
• Gallu i ddelio a phobol yn hyderus, pwyllog a chwrtais.
• Un sy'n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo'r angen, dangos blaengaredd ac yn cwrdd â therfynau amser penodol.
• Y gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
• Y gallu i weithio a chymysgu yn hawdd â phobl.
• Agwedd hyblyg gyda'r gallu i weithio ar ei phen/ben ei hun.
ANGHENION Y BUASAI'N DDYMUNOL EU CAEL YN Y SWYDD
• Profiad o weithio mewn labordai ysgol
• Profiad o weithio ar rwydwaith ysgol.