MANYLION
  • Testun: Athro
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Peirianneg a Dylunio a Thechnoleg (Ysgol Uwchradd Llanidloes)

Cyngor Sir Powys
Athro/Athrawes Peirianneg a Dylunio a Thechnoleg (Ysgol Uwchradd Llanidloes)
Swydd-ddisgrifiad
Mae Ysgol Uwchradd Llanidloes yn un o'r ysgolion mwyaf hapus a llwyddiannus yng Nghymru. Rydym wedi'n bendithio â diwylliant dysgu bywiog a llewyrchus, ethos gofalgar a thîm staff ymroddedig dros ben. Dyma gyfle arbennig ar gyfer athro/athrawes Peirianneg a Dylunio a Thechnoleg ysbrydoledig i ymuno ag ysgol ardderchog, sydd wedi ei gordanysgrifio yng Nghanolbarth Cymru wledig, hardd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
  • yn ofalgar am les a llwyddiant academaidd pob disgybl;
  • yn medru addysgu Peirianneg a Dylunio a Thechnoleg yn effeithiol hyd at a chan gynnwys Lefel-A;
  • yn weithgar, yn ysbrydoli cariad tuag at ddysgu ac yn sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd y safon academaidd uchaf posibl;
  • yn gallu cynnal a chadw offer y gweithdy yn ôl yr angen;
  • yn ddynamig yn y dosbarth ac yn cynnal safonau uchel iawn o addysgu a dysgu;
  • â sgiliau rhyngbersonol rhagorol, yn aelod da o dîm ac yn medru gweithio'n annibynnol;
  • â sgiliau trefniadol gwych ac etheg gwaith cryf;
  • yn cyfrannu'n llawn tuag at ddarparu cyfleoedd allgyrsiol;
  • ag agwedd bositif tuag at ddatrys problemau.
Byddai'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac addysgu mathemateg hyd at a chan gynnwys TGAU yn ddymunol. Mae croeso i ANG wneud cais.

Y dyddiad terfyn ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd, dydd Sul, 8fed Hydref. Bydd y rhestr fer yn cael ei llunio yn ystod yr wythnos yn dechrau 9fed Hydref a chyfweliadau'n cael eu cynnal ar ddydd Gwener, 13eg Hydref.

Os am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Mrs Sue Bound, y Swyddog Busnes.