MANYLION
  • Lleoliad: Within Ceredigion,
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cwnselydd Ysgol

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Dim ond gweithwyr cyfredol all wneud cais am y swydd hon.

Rydym bellach wedi dod â'r gwasanaethau cwnsela yn fewnol ac fel rhan o'r broses honno, rydym yn ceisio penodi cwnselydd cymwys yn yr ysgol i ddarparu gwasanaeth cwnsela yn bennaf mewn lleoliad ysgol uwchradd, ond hefyd yn cynnwys ysgolion cynradd clwstwr o Flwyddyn 6. Yn ogystal, darparu gwasanaeth cwnsela i fyfyrwyr yn yr ysgol ar sail gwaith achos unigol trwy system apwyntiadau cyfrinachol, gwasanaeth galw heibio a chwnsela ar-lein yn ôl yr angen.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sydd â Diploma Proffesiynol mewn Cwnsela ac sydd wedi'u hachredu/cofrestru gyda Chymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain neu Gyngor Seicotherapi y Deyrnas Unedig neu gyfwerth i gychwyn yn syth yn amodol ar gyfweliad a gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Byddwch yn ymuno â'r tîm ar adeg gyffrous wrth i ni symud ymlaen i reoli'r gwasanaeth cwnsela yn fewnol. Mae gennym Seicolegydd Addysg a Thîm Cwnsela yn yr Ysgol sy'n gyfeillgar, yn fywiog ac yn arloesol sydd wedi ymrwymo i gynorthwyo'r Awdurdod Addysg Lleol i gyflawni mwy o gynhwysiant a chodi safonau addysgol. Yn ymrwymedig i gysyniad addysg gynhwysol, bydd gennych ddealltwriaeth o'r heriau sy'n wynebu addysg gyda mwy o anghenion yn ymwneud ag iechyd meddwl a lles a byddwch yn gefnogwr angerddol o ddisgwyliadau uchel a chyflawniad uchel i'r holl ddisgyblion.

Trwy ymuno â ni byddwch yn cael mynediad i:
  • Cyfnod sefydlu priodol.
  • Cefnogaeth weinyddol a chefnogaeth o ran TG sydd o ansawdd ac sy'n benodedig.
  • Trefniadau gweithio hyblyg sy'n ystyriol o deuluoedd.
  • Goruchwyliaeth bob mis yn unol â chod ymarfer Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain.
  • Mynychu cyfarfodydd tîm a goruchwyliaeth gan gymheiriaid.
  • Mynediad at gynllun pensiwn blwydd-daliadau'r cyngor
  • Mynediad at gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad pellach.
Mae Ceredigion yn ardal wledig hardd yng Ngorllewin Cymru sy'n darparu mynediad hawdd i lwybrau'r Arfordir a llawer o deithiau cerdded golygfaol. Mae hefyd yn ardal sy'n llawn diwylliant a lle mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi'i lleoli ynghyd â chanolfan Gelf.

Fel Awdurdod Lleol, rydym wedi ymrwymo i sicrhau gwell canlyniadau o ran diogelwch a lles i blant, unigolion a theuluoedd ac, er mwyn cyflawni'r nod hwnnw, mae angen i ni fod yn hyderus bod datblygiad ein gweithlu, asesu a chynllunio gofal yn cael eu llywio gan dystiolaeth o arfer arloesol ac arfer orau. Bydd Ceredigion yn darparu gwasanaethau cynaliadwy o ansawdd gan ddefnyddio dulliau cyd-gynhyrchiol a chydweithredol gyda ffocws clir ar yr hyn sy'n bwysig i ddiogelwch a lles pobl. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phlant, unigolion a theuluoedd a gyda'n hasiantaethau partner ar draws pob sector er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl. Bydd y Fframwaith Arferion Arwyddion Diogelwch yn sail i bob agwedd ar ddarparu gwasanaethau ar draws y sefydliad corfforaethol. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o gysondeb a thryloywder yn yr hyn y gall unigolion a theuluoedd ei ddisgwyl gennym ar draws y continwwm angen. Mae'r Fframwaith Arwyddion Diogelwch yn sicrhau bod pwyslais ar adeiladu cryfderau unigolion, teuluoedd a chymunedau ac asesiad cadarn i nodi nodau clir, a fydd yn galluogi'r sefydliad i ddarparu'r cymorth cywir ar yr adeg gywir i bobl yng Ngheredigion.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Samantha Connolly Rheolwr Corfforaethol Ymgysylltu a Chyrhaeddiad - Samantha.connolly@ceredigion.gov.uk.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym ni a'n sefydliadau addysgiadol yn cydnabod bod plant a phobl ifanc a'r hawl i gael eu hamddiffyn a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn a byddwn yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant