MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Prif Seicolegydd Addysg

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Prif Seicolegydd Addysg

Band cyflog - B7 -10 a phwyntiau SPA

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant a phobl ifanc? Hoffech chi helpu i siapio tirwedd gynhwysol drwy arwain maes proffil uchel o fewn ein gwasanaeth?

Os felly, efallai eich bod mewn sefyllfa dda i ymuno â'n Hadran Addysg ddeinamig ac arloesol. Mae gan Wrecsam wasanaeth Cynhwysiant ac ADY sydd wedi'i hen sefydlu ac mae ein Seicolegwyr Addysg yn rhan bwysig iawn o hyn.

Yn dilyn ymddeoliad ein Prif Seicolegydd Addysg presennol ac adrodd i'r Pennaeth Gwasanaeth Cynhwysiant ac ADY, byddech yn helpu i symud ein gwasanaeth, a arweinir gan werthoedd, yn ei flaen i'r cam nesaf ar ein taith. Yn ogystal ag arwain tîm hynod weithgar, brwdfrydig a chefnogol y Gwasanaeth Seicoleg Addysg, cydweithio gyda'r Uwch Seicolegwyr Addysg, a rheoli ein Gwasanaethau Allgymorth Llythrennedd, Iaith ac Ymddygiad, byddwch hefyd yn cydweithio ar draws ein Gwasanaeth Addysg i helpu i lunio polisi a goruchwylio elfennau allweddol o'n strategaeth Cynhwysiant ac ADY.

Byddwch yn gyfrifol am ddatblygu cysylltiadau cydlynol gyda chydweithwyr iechyd, fel partneriaid allweddol, i ddatblygu ein hymarfer cefnogi ymddygiad sy'n cael ei lywio gan drawma.

Byddwch yn arwain ar sicrhau fod plant a phobl ifanc a nodwyd ag ADY a'u teuluoedd yn cael eu cefnogi'n gynhwysol i gyflawni canlyniadau cadarnhaol o ran eu haddysg a phrofiadau ehangach. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid ar draws Iechyd, y Sector Gwirfoddol a Gwasanaethau'r Cyngor.

Rydym yn chwilio am ymgeisydd:

• sydd ag enw da yn y sector

• sydd â phrofiad cryf o reoli ac arwain

• sy'n gallu meddwl yn greadigol a gweithio'n strategol ar draws y systemau cynhwysiant ac ADY ehangach

• sy'n ymarferydd gwydn.

Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sy'n frwd am ddulliau gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy'n gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar ddatrysiadau, gan ddefnyddio theorïau megis Seicoleg Gadarnhaol a Lluniad Cymdeithasol, ac sy'n edrych ymlaen at wneud cyfraniad unigryw i siapio tirwedd gynhwysol.

Mae Awdurdod Lleol Wrecsam wedi mabwysiadu'r egwyddorion ffyrdd modern o weithio. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a hawl i wyliau blynyddol hael. Mae'n hawdd iawn teithio o leoliad yr Awdurdod Lleol i ardaloedd o Ogledd-orllewin Lloegr ac ar draws Gogledd Cymru.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg

Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â:-

Lisa Duncalf, Pennaeth Gwasanaeth Cynhwysiant ac ADY

Helen Jones, Uwch Seicolegydd Addysg Regina Seymour, Uwch Seicolegydd Addysg