MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Y Garnedd, Bangor,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £0.00 - £10,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwyliwr Amser Cinio (5 awr) Ysgol y Garnedd, Bangor

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £2,317 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION CYNRADD

GORUCHWYLIWR AMSER CINIO (5 AWR)

Ysgol y Garnedd, Bangor
(Cynradd 3 - 11: 394 o ddisgyblion)

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS1 pwynt 2, (sef £2,317 y flwyddyn), yn ôl profiad a chymhwyster ar gyfer y swydd Goruchwyliwr Amser Cinio.

Yn eisiau: Cyn gynted a phosib

Oriau gwaith: 5 awr yr wythnos fel Goruchwyliwr Amser Cinio (38 wythnos, tymor ysgol yn unig).

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Mrs Llinos Davies. Rhif Ffôn: 01248 352534 e-bost: pennaeth@garnedd.ysgoliongwynedd.cymru

Dylid cyflwyno cais am y swydd ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, yna gallwch gysylltu gyda Wendy Jones, Cymhorthydd Cefnogi Ysgol. Rhif ffon 01758 704043 e-bost: wendyjones2@gwynedd.llyw.cymru

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn yr ysgol.

DYDDIAD CAU: 12 O'R GLOCH, DYDD GWENER, 5 GORFFENNAF 2024.

(This is an advertisement for a Mid-day school supervisor (5 hours) at Ysgol y Garnedd, Bangor for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate for the successful applicant before they can start at the school).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL
Person gofalgar, cyfeillgar a hyblyg. Gallu gweithredu fel aelod o dîm.
Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

DYMUNOL
Cymhwyster Cymorth Cyntaf.

PROFIAD PERTHNASOL

DYMUNOL
Profiad blaenorol o weithio gyda phlant neu ofalu am blant.

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL
Gallu cyfathrebu â phlant gyda gofal, empathi a dealltwriaeth.
Gallu dilyn cyfarwyddiadau a gweithdrefnau yn unol â pholisïau cytunedig yr ysgol.

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad - Lefel Sylfaen
Gallu cynnal sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yng nghyd-destun pob dydd y swydd gan ddefnyddio geirfa benodol sy'n codi'n rheolaidd er mwyn cyflwyno gwybodaeth.
Gallu cyflwyno gwybodaeth syml drwy gyfwng y Gymraeg a'r Saesneg sydd wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i gwestiynau.

Darllen a Deall - Lefel Sylfaen
Darllen a deall negeseuon a thaflenni gwybodaeth syml trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn ymwneud â'r swydd, a deall adroddiadau byr a syml ar bwnc cyfarwydd.

Ysgrifennu - Lefel Sylfaen
Gallu llenwi ffurflen syml a llunio llythyr neu neges ebost byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg drwy ddefnyddio cyfres o frawddegau allweddol i gyfleu gwybodaeth syml.

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.

• Sicrhau bod plant a phobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydyn yn ei wneud.
• Arolygu a chadw trefn ar y disgyblion cyn, yn ystod ac ar ôl prydau, gan gynnwys arolygu yn y maes chwarae neu yn y neuadd a'r dosbarthiadau yn ystod tywydd gwlyb.
• Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Prif Ddyletswyddau.

• Tywys y plant i'r ystafell fwyta a chynorthwyo'n gyffredinol yn y ffreutur tra bydd y bwyd yn cael ei weini.
• Sicrhau fod y plant yn dod i mewn a gadael y ffreutur/neuadd mewn modd rheoledig, a thawel.
• Gyda babanod, bydd y dyletswyddau'n cynnwys cario platiau bwyd at y byrddau (os nad oes
trefniadau eraill wedi eu gwneud gan y Pennaeth), torri cig ayb, hyfforddi'r plant i ddefnyddio cyllyll a ffyrc.
• Sicrhau nad ydyw'r plant ar unrhyw adeg heb arolygaeth.
• Wedi i'r disgyblion fwyta, sicrhau bod trefniadau clirio byrddau yn cael eu gweithredu.
• Annog cwrteisi a moesau da, gan gynorthwyo lle bo angen.
• Ymdrin ag unrhyw fân ddigwyddiadau gyda disgyblion, neu adrodd ar y digwyddiadau i berson dynodedig/
Pennaeth.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r cyngor/ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.

Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na'r lefel cyfrifoldeb.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi