MANYLION
  • Lleoliad: Aberaeron,
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 - Ysgol Gyfun Aberaeron

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Mae Ysgol Gyfun Aberaeron yn awyddus i gyflogi Cynorthwyydd Addysgu profiadol Lefel 3.

Mae Ysgol Gyfun Aberaeron yn ysgol Ddwyieithog gyda dros 585 o ddisgyblion. Amcanwn at greu amgylchedd o waith caled, lle gall y disgyblion fwynhau llwyddiant academaidd, a datblygu'n bersonol ac emosiynol, trwy rinwedd gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol. Anogir y disgyblion I wneud eu gorau, er mwyn cyrraedd y safonau uchaf posib, ac i'w paratoi am fywyd yn ystod, ac ar ôl eu blynyddoedd ysgol.

Ynghyd ag Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol, mae'r ysgol hefyd yn cynnal Canolfan Adnoddau Arbenigol Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu - Canolfan y Môr. Mae Canolfan y Môr yn darparu ar gyfer disgyblion ag ystod o anghenion Cymdeithasu, Iaith a Chyfathrebu cymhleth. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gefnogi yng Nghanolfan y Môr, ac efallai yn yr ystafell ddosbarth brif ffrwd a / neu'r Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n hyblyg fel rhan o dîm a gallu newid ei ffordd o weithio i ddiwallu anghenion amrywiol y disgyblion. Bydd profiad o weithio a ddisgyblion ag anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn fanteisiol ond nid yn hanfodol. Oherwydd natur y rôl mae angen i'r ymgeisydd fod yn ffit yn gorfforol ac yn gallu fod yn symudol.

Cysylltwch â Miss Nia Jakubowski ar 01545 570217 am fanylion pellach.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Mae diogelu ac amddiffyn plant a phobl ifanc yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy