MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Athro
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro Cerdd

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

YSGOL CLYWEDOG

Ffordd Rhuthun

Wrecsam

LL13 7UB

Rhif ffôn: 01978 346800

Pennaeth: Mr Alberto Otero

Athro Cerdd (Rhan amser 0.3) 3 diwrnod ar draws pythefnos

Prif Raddfa Gyflog/Uwch Raddfa Gyflog

I ddechrau: Mor fuan â phosib

Rydym yn chwilio am athro cerdd profiadol sydd ag angerdd am eu pwnc. Mae arnom angen rhywun i ymuno â'n tîm sy'n gallu cymell ei hun, sy'n drefnus, yn frwdfrydig ac sy'n gallu cyflawni sawl tasg ar yr un pryd.

A oes gennych chi'r arbenigedd i gyfrannu at ein hysgol sy'n gwella'n gyson?

A oes gennych ymdeimlad clir o bwrpas a'r dyhead i gyrraedd y safonau uchaf posib?

A oes gennych frwdfrydedd tuag at addysg a'r dewisiadau bywyd mae ysgol dda yn eu cynnig i bobl ifanc?

Os felly, hoffem glywed gennych chi a byddwch chi'n elwa o:

- Ymuno â thîm proffesiynol gwerthfawr.

- Derbyn cyfleoedd datblygu proffesiynol rhagorol.

- Bod yn rhan o ysgol uchelgeisiol.

- Defnydd o dechnolegau newydd.

Mae manylion pellach am y swydd, y ffurflen gais a'r swydd-ddisgrifiad ar gael ar wefan yr ysgol www.clywedog.org

Dychwelwch ffurflenni cais wedi eu llenwi at Mrs Wendy Evans, Rheolwr Busnes, Ysgol Clywedog, Ffordd Rhuthun, Wrecsam, neu eu hanfon dros e-bost at vacancies@clywedog.org.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 9am Dydd Llun 2 Hydref 2023

Dyddiad Cyfweld: dechrau 2 Hydref 2023