MANYLION
- Lleoliad: Plascrug Primary School, Aberystwyth,
- Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
- Iaith: Cymraeg
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gynradd Plascrug
Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Dosbarth Lefel 2 dros gyfnod mamolaeth i'n cynorthwyo ni i gefnogi a chyflwyno dysgu ar gytundeb dros dro yn Ysgol Gymunedol Plascrug. Mi fyddwch yn gweithio fel rhan o dim staffio craidd yr ysgol.
Dyma nod yr ysgol:
'Yma ym Mhlascrug mi fyddwn yn sicrhau y bydd pob plentyn yn ffynnu yn ein hysgol, sydd yn rhoi plant yn ganolog i'n cymuned. Credwn fod gan bob plentyn y gallu i wneud cynnydd rhagorol wrth ddatblygu sgiliau gydol oes mewn amgylchedd dwy ieithog sy'n ddiogel, ofalgar ac ysbrydoledig. Mi fyddwn yn rhoi y siawns gorau i lwyddo i bob plentyn gan ddathlu pob llwyddiant gyda'n gilydd.'
O hoffech fod yn ran o dim ymroddgar i'n helpu i wireddi'r nod yma ac yn meddu a'r sgiliau isod fydd yn eich galluogi i ymgymryd a'r swydd yn llwyddiannus yna fe hoffem i chi wneud cais am y swydd.
Fe fydd gofyn i chi:
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant a phobl ifanc yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
Darllen mwy

- oruchwylio a darparu cefnogaeth neulltiol i ddisgyblion ag anghenion arbennig, gan sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt fynediad at weithgareddau dysgu;
- sefydlu perthynas adeiladol gyda'r disgyblion, gan ryngweithio yn unol a'u hanghenion unigol;
- herio a symbylu disgyblion, hyrwyddo ac atgyfnerthu hunan-werth;
- annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan yr athro neu'r athrawes;
- cynorthwyo gyda'r gwaith o gynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu penodol;
- sgiliau rhifedd/llythrennedd da yn y Gymraeg a'r Saesneg;
- sgiliau cyfathrebu gwych ac yn meddu ar y gallu i adeiladu perthnasau dros ystod oedran a gallu;
- dealltwriaeth gyffredinol o'r cwricwlwm cenedlaethol / cyfnod Sylfaen a rhaglenni / strategaethau dysgu sylfaenol eraill;
- gweithio'n adeiladol a hyblyg yn rhan o dim, deal cyfrifoldebau a swyddogaethau'r ystafell ddosbarth a'ch safle bersonol o fewn y swyddogaethau hynny;
- CGC2 i Gynorthwyyr Dosbarth, cymwysterau neu phrofiad gyffelyb.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant a phobl ifanc yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy